Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gofalu am oedolion
Gofalu am oedolion

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

2 Datblygu eich sgiliau rhyngbersonol

Fel rhan o'ch rôl yn cefnogi eraill, yn aml bydd angen i chi gyfathrebu â'r bobl rydych yn eu helpu, yn ogystal â'r bobl eraill sy'n rhan o'r broses o ofalu am y person hwnnw.

Os ydych yn gofalu am rywun gartref, efallai y bydd angen i chi siarad â gweithwyr cymdeithasol neu weithwyr meddygol proffesiynol, yn ogystal â ffrindiau, teulu a chymdogion er mwyn cael y cymorth cywir i'r person hwnnw ac i'ch hunan. Mae'n bwysig gwneud y gorau o'r cyfleoedd hyn, ac er mwyn hynny, efallai y bydd angen i chi ddatblygu eich sgiliau rhyngbersonol.