4 Ffyrdd o gyfathrebu'n well
Efallai y bydd yn haws i chi ddeall rhai o'r bobl rydych yn gofalu amdanynt ond eich bod yn cael trafferth deall eraill. Gall hyn fod yn rhwystredig iawn a gall arwain at ymddygiad y gall fod yn anodd i chi ddelio ag ef. Dychmygwch sut beth yw ceisio dweud wrth bobl beth rydych ei eisiau neu sut rydych yn teimlo, a bod pawb yn cam-ddeall hyn. Gall hefyd fod yn anodd i ofalwyr pan fydd yn rhaid iddynt rannu gwybodaeth sensitif neu ofidus ac nad yw'r person maent yn gofalu amdano yn eu deall.
Edrychwch ar y fideo ar gyfathrebu di-lafar [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] [Transcript]. Mae cyfathrebu yn hanfodol ar gyfer ein lles ac ansawdd bywyd. Fel y nodwyd gan East Sussex Total Communication (2009), 'it impacts on our relationships, choice, control, emotions, self-esteem and self-expression'.
Dychmygwch mai lleferydd cyfyngedig iawn sydd gennych ac na allwch fynegi eich teimladau. Nid yw'r bobl o'ch cwmpas yn eich deall. Dychmygwch eich bod yn dal i geisio cyfathrebu yn eich ffordd eich hun ond eu bod yn dal i siarad â chi.
Dydych chi ddim yn creu helynt felly maen nhw'n eich rhoi i eistedd mewn cadair yn y lolfa drwy'r dydd, bob dydd ac maen nhw'n meddwl eich bod yn hapus i eistedd yno am nad ydynt yn creu helynt.
Dychmygwch eich bod yn rhoi cynnig ar ffordd wahanol o gyfathrebu ac yna maent yn dweud eich bod yn rhy heriol i fynd â chi allan. Felly, nawr, rydych yn eistedd yn eich cadair yn y lolfa drwy'r dydd, bob dydd.
Mae'n hanfodol bod gennym ddull cyfathrebu; cyfle i gyfathrebu a phwnc i gyfathrebu yn ei gylch.
Er mwyn sicrhau y gall pawb gyfathrebu, mae angen i chi ddefnyddio pob dull sydd ar gael i chi i roi a derbyn gwybodaeth.
Ymysg cymhorthion cyfathrebu mae ystumiau, iaith y corff, arwyddion, symbolau, ffotograffau, gwrthrychau cyfeirio a chymhorthion electronig. Gellir defnyddio'r rhain i helpu lleferydd neu yn lle lleferydd.
Un peth pwysig iawn y gallwn ei wneud yw rhoi amser i bobl brosesu gwybodaeth. P'un a yw'n glefyd Alzheimer, anableddau dysgu neu'n ddim byd mwy nag amgylchedd anodd, os ydych yn chwilio am ymateb, ceisiwch gyfrif i 20–30 eiliad yn eich pen cyn siarad eto neu ailadrodd y cwestiwn. Bob tro y byddwch yn siarad, rhaid i'r person ddechrau'r broses o lunio ateb eto (ac eto, ac eto!), a all fod yn rhwystredig i'r ddwy ochr.