5 Cofnodi ac adrodd
P'un a yw eich rôl yn cynnwys helpu aelod o deulu yn ei gartref, neu yn eich cartref chi, fel gofalwr di-dâl neu p'un a oes gennych rôl gofal cymdeithasol gyflogedig, mae'n debygol y bydd angen i chi gynnal rhyw fath o gofnod neu gyfathrebu ag eraill yn ysgrifenedig. Gall y rhain fod yn ddogfennau swyddogol neu answyddogol, ond bydd angen iddynt fod yn gywir, yn ffeithiol, wedi'u hysgrifennu'n glir a dylid eu cadw'n gyfrinachol os byddant yn cynnwys gwybodaeth bersonol.
Os oes gennych rôl gyflogedig, bydd gan y sefydliad lle rydych yn gweithio bolisïau ar waith ar gyfer cadw cofnodion a chofnodi digwyddiadau a dylech fod yn ymwybodol o'r rhain a dilyn y gweithdrefnau.
Os ydych yn ofalwr di-dâl, bydd unrhyw gofnodion y byddwch yn eu cadw yn ddefnyddiol wrth hysbysu gwasanaethau gofal cymdeithasol a gwasanaethau meddygol ynghylch newidiadau yng nghyflwr y person rydych yn ei helpu, neu newidiadau yn ei anghenion gofal, yn ogystal â newidiadau yn eich anghenion chi. Dylech bob amser gofio bod eich anghenion fel gofalwr hefyd yn bwysig, a gall cofnodion wedi'u dogfennu'n dda arwain y ffordd at fwy o gymorth i chi yn eich rôl yn ogystal â'r person rydych yn gofalu amdano.
Bydd dyddiadur neu lyfr cyfathrebu yn helpu i sicrhau bod pawb yn cael gwybod am beth sy'n digwydd ym mywyd y person rydych yn ei helpu, fel digwyddiadau cymdeithasol ac apwyntiadau meddygol, yn ogystal ag atgoffa pawb arall a all fod yn helpu'r person; er enghraifft, archebu meddyginiaeth neu gasglu presgripsiynau. Cofiwch mai cofnod cyhoeddus yw hwn, ac na ddylech gofnodi unrhyw beth yno sy'n breifat neu'n gyfrinachol.
Nid yw llyfrau cyfathrebu'n lle priodol i ysgrifennu sylwadau personol nac i feirniadu aelodau eraill o staff. Ni ddylech eu defnyddio i gael 'sgyrsiau' parhaus ag aelodau eraill o staff.