Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gofalu am oedolion
Gofalu am oedolion

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

Cyfathrebu da

Cyflwyniad

Yn yr adran hon am gyfathrebu'n dda, byddwch yn edrych ar y ffyrdd gwahanol rydym yn cyfathrebu, p'un a fyddwn yn ymwybodol ohonynt ai peidio. Mae cyfathrebu yn rhywbeth mae pawb ohonom yn ei wneud, ond os ydych yn gofalu am rywun, boed hynny'n gyflogedig neu'n ddi-dâl, gall sut rydych yn cyfathrebu gael effaith sylweddol ar eich perthynas â'r person hwnnw. Byddwch yn gwirio eich sgiliau rhyngbersonol a'ch gallu i wrando ar bopeth gydag empathi. (Empathi yw'r gallu i uniaethu â theimladau neu anawsterau rhywun arall a'u deall.) Y peth nesaf y byddwch yn ystyried yw sut y gallwch helpu'r bobl rydych yn gofalu amdanynt i gyfathrebu'n fwy effeithiol, a'ch dull o gyfathrebu'n ysgrifenedig yn benodol. Felly, byddwch yn ystyried y rhan sydd gan gofnodi ac adrodd i'w chwarae yn y gofal a roddir gennych.

Caiff yr adran ei rhannu'n bum pwnc a dylai gymryd tua hanner awr i chi astudio a chwblhau pob un o'r rhain. Mae'r pynciau fel a ganlyn:

  1. Beth yw cyfathrebu? edrych ar y ffyrdd y mae pobl yn cyfathrebu a'r rhesymau dros hynny, y rhwystrau i gyfathrebu a ffyrdd o'u goresgyn.
  2. Datblygu eich sgiliau rhyngbersonol archwilio sgiliau rhyngbersonol a'r ffordd rydym yn eu defnyddio ym mhob maes o'n bywydau. Mae hefyd yn ystyried ffyrdd o ddatblygu'r sgiliau hynny, yn cynnwys gwrando'n well a gweithio fel rhan o dîm.
  3. Ydych chi'n gwrando neu'n aros i siarad? archwilio pwysigrwydd gallu gwrando, ac ystyried yn fanylach y lefelau gwahanol o wrando a sut a phryd i'w defnyddio.
  4. Ffyrdd o helpu pobl i gyfathrebu trafod ffyrdd o ddod yn gyfathrebwr gwell, yn cynnwys ffyrdd o gyfathrebu â phobl sydd â dementia ac anableddau dysgu.
  5. Cofnodi ac adrodd amlinellu'r rhesymau dros fod yn glir ac yn benodol mewn cofnodion ysgrifenedig ac wrth lunio adroddiadau, a rhoi arweiniad ar y ffordd orau o gwblhau dogfennaeth o'r natur hon.