Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gofalu am oedolion
Gofalu am oedolion

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

1 Terminoleg ac iechyd meddwl

Yn y cyflwyniad i'r adran hon o'r cwrs, byddwch wedi sylwi y defnyddir nifer o dermau gwahanol i ddisgrifio profiad pobl sydd, am un rheswm neu'r llall, yn gysylltiedig â phroblemau iechyd meddwl. Disgrifir y problemau hyn fel problemau iechyd meddwl a salwch meddwl. Ymysg y ffyrdd eraill o ddisgrifio problemau iechyd meddwl mae anhwylder meddyliol, anabledd meddyliol, gofid meddwl ac analluogrwydd meddyliol. Mae llawer o bobl yn deall problemau iechyd meddwl oherwydd cyflyrau penodol. Yn ddiweddarach yn yr adran hon, byddwch yn dysgu am rai o'r mathau o broblemau iechyd meddwl, yn cynnwys:

  • iselder
  • sgitsoffrenia
  • anhwylder deubegynol
  • dementia.

Yn y cwrs hwn rydym yn defnyddio'r term 'problemau iechyd meddwl' am ei fod yn awgrymu bod y cyflwr yn awgrymu problemau ehangach na'r hyn y mae statws iechyd meddwl unigolyn yn ei awgrymu. Nodwch y defnyddir y term 'problemau iechyd meddwl' yn y lluosog. Yn aml, gall fod gan y person fwy nag un broblem yn gysylltiedig â'i gyflwr.

Gweithgaredd 1

Timing: Dylech neilltuo tua 10 munud

Ystyriwch beth yw ystyr iechyd meddwl da a sut y gall fod yn wahanol i fod â phroblemau iechyd meddwl. Ysgrifennwch eich meddyliau yn y blwch isod.

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Sylwadau

Mae'r gwahaniaeth rhwng cael iechyd meddwl da a chael problemau iechyd meddwl yn faes dadleuol. Mae iechyd meddwl da yn golygu mwy na dim ond absenoldeb problemau iechyd meddwl. Yn hytrach, mae'n cyfeirio at gyflwr lles cadarnhaol lle gall yr unigolyn:

  • gyflawni ei botensial i'r eithaf
  • ymdopi â'r pethau bob dydd sy'n digwydd mewn bywyd
  • chwarae rhan lawn ym mywydau eraill.

Fodd bynnag, mae llawer o bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl yn dadlau y gallant gyflawni eu potensial, ymdopi â bywyd a mwynhau cydberthnasau boddhaus ar yr amod y caiff eu hanghenion penodol eu diwallu. Wrth gwrs, nid yw eraill yn mwynhau'r cyflwr iechyd meddwl cadarnhaol hwn ac mae angen gofal a thriniaeth barhaus arnynt.