1.1 Y model biomeddygol
Y ffordd fwyaf cyffredin o ddeall problemau iechyd meddwl yw drwy eu hystyried yn salwch yn yr un modd ag y caiff problemau iechyd eraill, fel clefyd cardiofasgwlaidd neu ddiabetes, eu hystyried yn salwch. Mae llunwyr polisïau yn ein hannog i wneud hyn. Yn sail i'r model biomeddygol mae'r gred bod gan salwch meddwl achos y gellir ei drin ac, mewn sawl achos, y gellir gwella'r claf.
Mae gan y model biomeddygol ei fanteision:
- Mae'n cynnig esboniadau o salwch meddwl sy'n rhoi tawelwch meddwl i lawer o bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl oherwydd y gall fod yn gam cyntaf tuag at adferiad.
- Gall cael diagnosis ac enwi cyflyrau helpu i roi tawelwch meddwl i bobl bod yr hyn maent yn ei brofi yn 'real' ac yn cael ei rhannu gan eraill.
- Mae'n lleddfu symptomau fel rhithweledigaethau, curiad calon cyflym neu boeni parhaus fel bod yr unigolyn yn dechrau teimlo'n well.
- Mae'n sicrhau mynediad i gymorth a all helpu i leddfu rhai o'r pethau sy'n poeni'r unigolyn, fel methu â mynd i siopa.
Fodd bynnag, mae'r model biomeddygol yn seiliedig ar y dybiaeth ganlynol:
- bod achos y salwch meddwl yn bodoli o fewn yr unigolyn felly mae ffocws y driniaeth ar symptomau corfforol
- ceir ffocws ar beth sy'n normal fel bod safbwyntiau meddygol yn penderfynu beth nad yw'n normal.
Mae gan y model biomeddygol ddiffygion y gallai model cyfannol ei egluro.
Mae model cyfannol o iechyd meddwl yn ystyried elfennau ysbrydol, seicolegol, emosiynol, cymdeithasol ac amgylcheddol ein bywydau. Hynny yw, mae'n ystyried ein person a phopeth am ein bywyd yn gyffredinol.