1.3 Y fframwaith cyfreithiol
Yng Nghymru a Lloegr, caiff arfer iechyd meddwl ei lywodraethu gan ddau brif ddarn o ddeddfwriaeth. Mae Deddf Iechyd Meddwl 1983/2007 yn darparu'r gyfraith gyffredinol ar sut y caiff gofal a thriniaeth eu cynnig, gyda darpariaeth ar gyfer anfon unigolion i ysbyty meddwl os bydd angen. Mae hyn yn golygu y gellir gwneud iddynt dderbyn triniaeth yn erbyn eu hewyllys mewn amgylchiadau a reoleiddir yn ofalus. Mae'n werth nodi bod y rhan fwyaf o bobl sy'n defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl yn gwneud hynny fel defnyddiwr gwasanaeth anffurfiol neu wirfoddol, ac nad oes raid iddynt dderbyn triniaeth os nad ydynt yn dymuno.
Defnyddir Deddf Galluedd Meddyliol 2005 i sicrhau nad yw pobl sy'n agored i niwed, yn enwedig pobl hŷn na allant reoli eu materion eu hunain, yn cael eu hecsbloetio na'u niweidio. Os mai dyna yw'r achos, gellir cyflwyno Atwrneiaeth fel bod person arall yn cymryd yr awdurdod cyfreithiol i weithredu ar ran yr unigolyn hwnnw. Yn aml, bydd hyn yn digwydd pan fydd person hŷn yn datblygu dementia ac yn methu â gwneud penderfyniadau mwyach; er enghraifft, i reoli ei gyllid neu dasgau bob dydd eraill. Os ydych am ddarllen mwy am y Ddeddf Galluedd Meddyliol, ewch i Adran 4 y cwrs hwn, Cymryd risgiau cadarnhaol [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] .
Mae gan yr Alban ei deddfwriaeth iechyd meddwl ei hun: Deddf Iechyd Meddwl (yr Alban) 2015. Mae Gorchymyn Iechyd Meddwl (Gogledd Iwerddon) 1986 yn rheoli gofal a thriniaeth yng Ngogledd Iwerddon.