Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gofalu am oedolion
Gofalu am oedolion

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

2 Mathau o broblemau iechyd meddwl

Mae rhai problemau iechyd meddwl yn gyffredin ac mae llawer o bobl sydd ag iechyd meddwl da yn gwybod sut beth yw'r problemau. Amcangyfrifir y bydd un o bob pedwar person yn cael problemau iechyd meddwl rywbryd yn ei fywyd, ac ar unrhyw adeg, bydd gan un o bob chwe pherson broblemau iechyd meddwl. Mae gan y rhan fwyaf o'r bobl hyn iselder neu orbryder. Mae'n anodd gweld problemau iechyd meddwl; o ganlyniad, ni chânt eu derbyn fel salwch yn yr un ffordd â salwch neu anabledd corfforol.

Yn yr adran hon, byddwn yn canolbwyntio ar broblemau iechyd meddwl sy'n effeithio ar fywydau pobl mewn un ffordd neu'r llall. Mae'n siŵr y byddwch wedi clywed am lawer ohonynt.

Diagnosis

Cyn i chi astudio mathau o broblemau iechyd meddwl, hoffem i chi fyfyrio ar unrhyw ddiagnosis rydych wedi clywed amdano neu wedi cael profiad ohono.

Gweithgaredd 2

Timing: Dylech neilltuo tua 10 munud

Nodwch unrhyw broblem iechyd meddwl rydych yn ymwybodol ohoni.

  • Beth yw ei enw/eu henwau?
  • Pa arwyddion a symptomau allai'r broblem iechyd meddwl arwain atynt?
I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Sylwadau

Mae rhai problemau iechyd meddwl yn gyffredin ac mae llawer o'r arwyddion a'r symptomau yn brofiad cyfarwydd i lawer o bobl. Er enghraifft, mae rhai o'r symptomau yn rhan o'r ffordd 'arferol' y mae pobl yn ymateb i newidiadau yn eu hamgylchiadau; mae teimladau cryf o dristwch ac euogrwydd yn ystod profedigaeth yn arferol, ond nid yw mor arferol lle na chafwyd profedigaeth. Mae rhai problemau iechyd meddwl yn cynnwys symptomau nad ydynt yn rhan o'r profiad arferol i'r rhan fwyaf o bobl; dwy enghraifft o hyn yw clywed lleisiau a chael meddyliau rhyfedd am bobl eraill.

Nawr, byddwch yn ystyried mathau o broblemau iechyd meddwl fel y maent wedi'u dosbarthu yn y Llawlyfr Diagnostig ac Ystadegol o Anhwylderau Meddwl a'r Dosbarthiad Rhyngwladol o Glefydau. Mae'n werth cofio bod y rhain yn seiliedig ar ddiagnosisau meddygol ac felly maent yn seiliedig ar fodel biomeddygol yn bennaf. Wrth wneud diagnosis, mae gweithwyr proffesiynol yn dibynnu ar gyfuniad o arwyddion a symptomau, yn ogystal â gwybodaeth arall fel y wybodaeth a geir o brofion gwaed.

Arwyddion yw'r hyn y gall person arall ei arsylwi, a symptomau yw beth y mae'r unigolyn yn ei brofi neu ei deimlo. Bydd gweithiwr iechyd meddwl proffesiynol yn ceisio arsylwi am arwyddion neu'n gofyn i berson arall sy'n hysbys i'r unigolyn siarad am unrhyw arwyddion y mae wedi'u harsylwi, a cheisio gwybodaeth gan yr unigolyn am ei brofiad drwy ei holi mewn asesiad iechyd meddwl.

Caiff dosbarthiadau o broblemau iechyd meddwl a'u harwyddion a'u symptomau cyffredin eu disgrifio nesaf.