2.4 Dementia
Term mantell yw dementia a ddefnyddir i ddisgrifio amrywiaeth eang o anhwylderau gwybyddol. Gydag anhwylderau gwybyddol, bydd yr unigolyn yn colli ei allu i feddwl a gallai hyd yn oed golli ei gof yn llwyr. Mae amnesia llwyr yn anghyffredin iawn ond y math mwyaf cyffredin a mynych o anhwylder gwybyddol yw dementia. Y math mwyaf cyffredin o ddementia yw clefyd Alzheimer. Ymysg pobl hŷn y'i gwelir yn bennaf, ond gall ddigwydd yn llawer cynharach fel dementia cyn heneiddio. Ymysg y mathau eraill cyffredin o ddementia mae dementia fasgwlaidd, dementia blaenarleisiol a dementia gyda chyrff Lewy.
Ymysg nodweddion dementia mae:
- colli cof yn raddol
- anallu i feddwl drwy broblemau mewn bywyd bob dydd
- syrthni (anweithgarwch)
- colli'r gallu i gyfathrebu a rhyngweithio'n briodol.
Mae gan Gymdeithas Alzheimer [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] wybodaeth ddefnyddiol am ddementia, fel diagnosis a gofalu am berson â dementia.