3 Cael problemau iechyd meddwl
Y ffordd orau o ddeall yr effeithiau y gall mathau gwahanol o broblemau iechyd meddwl eu cael ar yr unigolyn yw drwy glywed beth mae pobl sy'n byw â phroblemau iechyd meddwl yn ei ddweud am eu profiadau.
Nawr, byddwch yn gwylio fideo byr gan yr actor a'r cyflwynydd teledu Stephen Fry sy'n esbonio'r effaith ferwiniol y gall ei anhwylder deubegynol ei chael. Nodwch mai iselder manig a nodir yn nheitl y fideo, nid anhwylder deubegynol, gan atgyfnerthu'r ffaith bod termau'n newid wrth i'n dealltwriaeth a'n syniadau am broblemau iechyd meddwl ddatblygu.
Gweithgaredd 3
Gwyliwch y fideo The Secret Life of the Manic Depressive Part 1.
Transcript: Stephen Fry yn siarad am ei iselder.
The Secret Life of the Manic Depressive Part 1
Wrth i chi wylio'r fideo, gwnewch nodiadau byr ar unrhyw arwyddion a symptomau a ddisgrifir gan Stephen Fry.
Sylwadau
Mae Fry yn trafod ei rwystredigaeth a'i ddiflastod wrth iddo ddisgrifio'r effaith a gaiff ei anhwylder deubegynol ar ei fywyd. Yn y fideo, mae'n canolbwyntio ar nodweddion iselhaol ei broblemau iechyd meddwl. Byddwch wedi gweld sut y dioddefodd; roedd am fod ar ei ben ei hun, roedd yn teimlo'n euog ei fod wedi siomi pobl eraill, ac roedd ganddo ymdeimlad aruthrol o ddiflastod a methiant. Nid yw'n trafod ei ymddygiad diofal a byrbwyll yn ystod y cyfnodau manig. Pe byddai wedi gwneud hynny, efallai y byddai wedi dweud am ei byliau o ddwyn o siopau a'r adeg y bu'n ffoi rhag yr heddlu. Pan oedd yn droseddwr ifanc yn y carchar y cafodd ddiagnosis o broblemau iechyd meddwl gyntaf.
Byddwch yn parhau i gael safbwynt pobl sydd wedi cael problemau iechyd meddwl drwy ddarllen dau drawsgrifiad o astudiaeth achos sy'n rhoi dau safbwynt ynghylch sut yr effeithiodd iselder ar Kate.
Gweithgaredd 4
Yn y dyfyniad hwn o Lorraine and Kate: Depression (OpenLearn, 2016), byddwch yn darllen sut y sylwodd Lorraine bod gwaith yn effeithio ar ei ffrind Kate. Yna, cewch gyfle i ddarllen am safbwynt Kate ei hun.
Nodwch yn y blwch ymateb isod unrhyw straen bywyd a effeithiodd yn andwyol ar iechyd meddwl Kate.
Rhan 1: Stori Lorraine
Rwyf wedi bod yn ffrindiau gyda Kate ers pan oeddem yn yr ysgol gynradd. Ar ôl gadael yr ysgol, es i weithio i werthwyr tai, priodais a nawr mae gen i blentyn bach ac rwy'n feichiog eto. Rwy'n dal i weithio i'r gwerthwyr tai, yn rhan amser. Cafodd Kate swydd yn gweithio i rywun arall mewn cwmni mawr yn Leeds.
Roedd yn byw gyda'i mam a'i thad ac yn teithio bob dydd i ddechrau. Roeddem yn gweld ein gilydd bron bob wythnos, yn mynd am ddiod i'r dafarn leol, i'r sinema, ac ati. Yna, symudodd Kate i fflat bach un ystafell yn Leeds, ond byddai'n dod adref ar benwythnosau yn aml a gwnaethom gadw mewn cysylltiad.
Pan aned Hayley, roedd yn meddwl ei bod yn ddel a byddai'n galw heibio i'n gweld ni. Daeth yn arferiad i ni fynd allan gyda'r nos bob yn ail wythnos. Roedd yn ymddangos bod llawer o bwysau ynghlwm â swydd Kate. Roedd yn rhaid iddi adael ei ffôn symudol gwaith ymlaen drwy'r adeg gan fod y bobl roedd hi'n gweithio iddyn nhw dramor yn aml ac roedd angen iddynt ei ffonio unrhyw bryd.
Felly, nid oedd am fynd i'r sinema na'r ganolfan hamdden rhag ofn iddi golli galwad. Aeth ein nosweithiau allan yn llai rheolaidd a phan oeddem yn mynd allan, roeddem yn cael llai o hwyl, roedd yn ymddangos fel pe bai ar bigau'r drain.
Aethom i ffwrdd am bythefnos o wyliau a doedden ni ddim wedi trefnu cyfarfod arall. Dywedodd Kate y byddai'n ffonio pan fyddai'n rhydd. Aeth wythnosau heibio ac roedd yn rhyddhad pan wnaeth ffonio. Dywedodd nad oedd am gwrdd am nad oedd yn teimlo'n dda. Roedd wedi cael cyfnod i ffwrdd o'r gwaith. Pan ddywedodd fod ganddi iselder dywedais pa mor falch roeddwn nad oedd yn rhywbeth difrifol.
Roedd hynny dros flwyddyn yn ôl. Rwy'n gwybod bod iselder yn ddifrifol ac fy mod wedi dweud y peth gwaethaf posibl. Ond wyddwn i ddim ac rwy'n gobeithio fy mod wedi bod yn ffrind da er gwaethaf hyn. Nid yw Kate wedi dychwelyd i'w swydd yn Leeds ond mae'n llawer gwell er nad yw ei meddyginiaeth yn hollol iawn ar ei chyfer o hyd. Weithiau, pan fyddant yn ceisio newid ei thabledi, mae'n cael sgil effeithiau ac yn teimlo'n ofnadwy, ond mae'n debycach i'r hen Kate eto.
Nawr, darllenwch beth ddywedodd Kate am y straen oedd arni
Rhan 2: Stori Kate
O edrych yn ôl, wn i ddim sut ddigwyddodd hyn i mi. Mae'n debygol fy mod yn gweithio'n rhy galed a doeddwn i ddim wedi cael gwyliau go iawn. Sut allwn i fforddio un, o ystyried yr arian roeddwn yn ei daflu at fy landlord? Y peth gorau y gallwn i ei wneud oedd mynd yn ôl i dŷ Mam.
Roeddwn wedi cyrraedd pwynt lle'r oedd gwaith yn fy llethu. Roedd y mewnflwch yn llawn o hyd, a byddwn yn gweithio'n galetach a chaletach, ond byddai mwy a mwy o bethau angen eu gwneud o hyd. Roeddwn dan straen ac y teimlo'n orbryderus drwy'r amser.
Roedd rhai diwrnodau lle mai prin y gallwn fynd allan o'r gwely am fy mod yn gwybod beth oedd yn aros amdanaf yn y swyddfa. Ac roeddwn mor flinedig hefyd, wedi blino drwy'r amser. Roeddwn wedi bod yn awyddus i ddechrau rhedeg, ond aeth hynny ar chwâl – hyd yn oed pe byddai gen i'r amser, prin y gallwn glymu fy esgidiau heb sôn am fynd o amgylch y parc.
Roeddwn i'n lwcus; roeddwn gartref pan 'dorrais i lawr'. Roedd yn fore dydd Llun ac allwn i ddim codi allan o'r gwely. Daeth Mam i mewn i weld beth oedd wedi digwydd a dechreuais grïo a chrïo ac allwn i ddim stopio.
Allwn i ddim hyd yn oed siarad â hi, dim ond crïo. Roedd yn poeni, felly aeth â fi yn syth i'r feddygfa ac roedd ein meddyg teulu yn wych. Gwnaeth gymryd popeth o ddifrif – a'm synnodd a dweud y gwir. Diolch byth am hynny.
Mae blwyddyn wedi mynd heibio, ac rwy'n dal i gael archwiliadau rheolaidd achos dydw i ddim yn iawn o hyd ac nid yw'r feddyginiaeth yn iawn. Mae rhai diwrnodau pan na fyddaf am weld neb ac rwy'n teimlo'n ofnadwy mewn tyrfaoedd.
Pan fyddaf yn cwrdd â phobl, mae'n rhaid i mi ganolbwyntio ar beth maen nhw'n ei ddweud. Mae ffrindiau yn meddwl fy mod yn iawn, ond rwy'n anarferol o flinedig ar ôl bod gyda nhw. Heblaw am feddwl nad oedd iselder yn ddifrifol, mae Lorraine wedi bod yn wych ac rwyf wrth fy modd yn ei gweld hi a Hayley.
Mae gwylio Hayley yn cropian o gwmpas yn fy newid. Gallaf weld fy mod yn dal i boeni gormod. Rwy'n sylweddoli bod popeth wedi mynd yn drech na mi; doeddwn i ddim yn gorfod gweithio'n rhy galed – fi oedd yn meddwl y tu hwnt i reswm. Gallaf weld beth aeth o'i le ond wn i ddim pam o hyd.
Sylwadau
Rydych wedi darllen am yr un sefyllfa o ddau safbwynt gwahanol. I ddechrau, mae Lorraine yn dweud wrthym sut y gwelodd fod Kate yn newid o fod yn ffrind da i fod yn berson mwy pell i ffwrdd a chroendenau. Mae symptomau Kate yn cyfateb i lawer o symptomau y gwnaethoch ddarllen amdanynt yn gynharach: teimlo ei bod yn cael ei llethu, teimlo dan straen ac yn orbryderus, wedi blino drwy'r amser, aros yn y gwely, crïo'n aml ac ynysu ei hun. Mae'r rhain oll yn arwyddion ac yn symptomau o iselder.
Pa straen bywyd wnaethoch chi ei nodi a effeithiodd ar Kate? Efallai ei bod yn gorfod gweithio'n rhy galed ac nad oedd yn cael digon o amser i ymlacio rhwng diwrnodau gwaith, ei bod dan bwysau i berfformio i'w chyflogwr, ac yn poeni am arian (y rhent ar ei fflat). Roedd hyn i gyd ar adeg pan symudodd oddi wrth ei rhwydwaith cymorth – Lorraine a'i mam.
Yn y pwnc nesaf byddwch yn dysgu mwy am rai o'r ymyriadau a ddefnyddir fel arfer i leddfu problemau iechyd meddwl.