4.2 Therapïau
Heddiw, defnyddir amrywiaeth eang o feddyginiaethau yn benodol i drin salwch meddwl, e.e. cyffuriau gwrthseicotig er mwyn trin sgitsoffrenia ac anhwylderau seicotig, cyffuriau gwrth-iselder ar gyfer iselder a chyffuriau lleihau gorbryder er mwyn lleddfu symptomau gorbryder.
Caiff therapïau siarad fel therapi gwybyddol ymddygiadol eu rhagnodi'n gyffredin bellach, naill ai yn lle meddyginiaeth neu ar y cyd â thabledi. Mae'r rhain yn cydnabod y dylai'r unigolyn fod yn rhan o'i adferiad ei hun. Maent ar ffurf rhaglen a arweinir gan therapydd y bydd y person yn ei dilyn, gan wneud 'gwaith cartref' er mwyn ymarfer yr hyn y bydd yn ei ddysgu. Ymysg yr enghreifftiau mae help seicolegol er mwyn goresgyn ofnau neu ffactorau eraill sy'n cyfyngu ar ei allu i fyw bywyd llawn a gweithredol.
Yn aml, defnyddir therapïau siarad er mwyn trin pryderon afresymol fel ofn llefydd agored neu uchder. Efallai y bydd y therapydd yn meddwl mai'r driniaeth briodol yw cwrs i ddansensiteiddio'r person i fod yn yr awyr agored. Yn y therapi seicolegol hwn, byddai'r person yn cael ei amlygu'n raddol i'r sefyllfa y mae'r ffobia yn gysylltiedig â hi tra'n cyflawni ymarfer ymlacio.
Gweithgaredd 5
Nawr, byddwch yn cyfateb triniaeth i broblemau iechyd meddwl. Darllenwch y pedair sefyllfa isod. Pan fyddwch wedi gorffen, dewiswch driniaeth o'r rhestr sy'n briodol yn eich barn chi.
a.
Meddyginiaeth wrth-seicotig
b.
Therapi gwybyddol ymddygiadol gyda meddyginiaeth wrth-iselder
c.
Cwnsela ar gyfer anhwylder straen wedi trawma
d.
Cael ei dderbyn i uned iechyd meddwl
Yr ateb cywir yw b.
Sylwadau
Gan fod gan Ray iselder, mae'n debyg mai defnyddio cyffuriau gwrth-iselder ynghyd â siarad am ei broblemau yw'r dull a fyddai'n ei helpu fwyaf.
a.
Ei anfon i ysbyty iechyd meddwl o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl
b.
Dadsensiteiddio ar gyfer ffobia o fannau agored (agoraffobia)
c.
Meddyginiaeth wrth-iselder
d.
Taflen ar hunangymorth
Yr ateb cywir yw b.
Sylwadau
Mae'n fwyaf tebygol bod gan Betty ffobia, a'r driniaeth briodol ar gyfer hyn yw dadsensiteiddio.
a.
Therapi gwybyddol ymddygiadol gyda meddyginiaeth wrth-iselder
b.
Ei anfon i ysbyty iechyd meddwl o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl
c.
Meddyginiaeth wrth-seicotig
d.
Bag papur
Yr ateb cywir yw c.
Sylwadau
Mae'n swnio fel petai gan Carl seicosis, a allai ddatblygu'n sgitsoffrenia. Byddai meddyginiaeth wrth-seicotig yn ei helpu ar y cam hwn o'i broblemau iechyd meddwl.
a.
Cwnsela ar gyfer anhwylder straen wedi trawma
b.
Ei hanfon i ysbyty iechyd meddwl o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl
c.
Meddyginiaeth wrth-seicotig
d.
Dadsensiteiddio i ddamweiniau car
Yr ateb cywir yw a.
Sylwadau
Gan fod gan Maya anhwylder straen wedi trawma, y dull gweithredu gorau yw cynnig cwnsela iddi, sef math o therapi siarad.