Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gofalu am oedolion
Gofalu am oedolion

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

5.1 Cydberthnasau ac ymgysylltiad

Y ddelwedd a ddisgrifir
Ffigur 6 Mam a merch yn siarad â gweithiwr gofal proffesiynol

Gweithgaredd 6

Timing: Gweithgaredd 6

Myfyriwch ar sut y dylai gweithwyr iechyd proffesiynol helpu gofalwyr teuluol yn eich barn chi. Ysgrifennwch eich meddyliau yn y blwch isod.

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Sylwadau

Efallai eich bod wedi ystyried bod gofal teuluol ar gyfer iechyd meddwl yn wahanol i fathau eraill o ofalu a'i fod hefyd yn bersonol iawn i'r berthynas sydd gan y teulu â'r person sy'n derbyn gofal. Oherwydd hyn, efallai eich bod o'r farn y dylai gweithwyr iechyd meddwl proffesiynol gydnabod nad yw anghenion y teulu o anghenraid yr un fath ag anghenion y person sy'n derbyn gofal. Efallai eich bod wedi meddwl ei bod yn well cynnwys y teulu mewn penderfyniadau a wneir ynghylch y person sy'n derbyn gofal ac y caiff ei gydnabod yn ffynhonnell o wybodaeth arbenigol.

Mae'n bosibl eich bod wedi nodi rhwystrau i ofalu'n effeithiol: gofalwyr yn cael eu cymryd yn ganiataol ac yn cael eu hynysu. Gallai eich profiad eich hun fod wedi gwneud i chi ddod i'r casgliad bod gofalwyr teuluol wedi'u dal o fewn cyfyngiadau eu rôl ofalu a bod disgwyl iddynt ymdopi.

Ar nodyn mwy cadarnhaol, efallai eich bod yn gwybod bod ffyrdd o oresgyn y rhwystrau hyn; er enghraifft, drwy ystyried hawliau a chyfrifoldebau gofalwyr teuluol. Mae hyn yn golygu gwrando arnynt a chymryd beth maent yn ei ddweud o ddifrif. Drwy roi cymorth amserol, bydd teuluoedd yn gweld bod eu cyfrifoldebau'n cael eu cydnabod, a bod ganddynt ran werthfawr i'w chwarae yn y broses o wneud penderfyniadau a gyda dulliau trin. Byddai hefyd o fantais i'r teulu gael dysgu mwy am iechyd meddwl a thynu sylw gweithwyr proffesiynol at unrhyw elfennau o amrywiaeth diwylliannol.