Rhagor o wybodaeth (dewisol)
Nawr eich bod wedi cwblhau'r adran hon, beth am archwilio OpenLearn i ddysgu mwy am iechyd meddwl? Mae'r BBC, mewn partneriaeth â'r Brifysgol Agored, yn darlledu pynciau sy'n ymwneud ag iechyd meddwl, fel All in the Mind. Beth am weld pryd y gallwch wrando ar un o'r rhaglenni hyn?
Mae gan gyfran fawr o bobl ddigartref broblemau iechyd meddwl y gellir rhoi diagnosis ar eu cyfer. Ystyriwch sut fywydau sydd ganddynt, a sut y gallech chi neu bobl eraill helpu.
Gan ddefnyddio'r rhyngrwyd, archwiliwch beth mae sefydliadau elusennol a grwpiau ymgyrchu iechyd meddwl yn ei gynnig. Mae'r safleoedd ar gyfer Rethink [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] , Mind, y Gymdeithas Alzheimer ac Age UK yn cynnig llawer o wybodaeth, adnoddau a chyngor ar broblemau iechyd meddwl.