Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gofalu am oedolion
Gofalu am oedolion

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

Ymwybyddiaeth iechyd meddwl

Cyflwyniad

Mae gofal iechyd meddwl wedi cael ei ddisgrifio fel 'materion teuluol' am fod gwasanaethau cymorth modern yn canolbwyntio fwyfwy ar leoliadau cymunedol, lle y cynhelir y rhan fwyaf o ofal iechyd meddwl bellach. Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol (2010), mae 1.5 miliwn o bobl yn y DU yn gofalu am berthynas neu ffrind sydd â phroblem iechyd meddwl neu ddementia. Rhoddir mwy a mwy o bwyslais ar rôl gofalwyr sy'n aelodau o'r teulu wrth helpu pobl sydd mewn gofid meddwl i wella.

Mae'r cwrs o werth i bob gofalwr. Gall gofalwyr pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl gynnwys pobl sy'n gofalu am berthynas neu ffrind yn eu cartref. Gallent hefyd gynnwys pobl sy'n cael eu talu i ofalu, fel gweithwyr cymorth mewn gwasanaethau cymunedol. Rydym hefyd yn cydnabod mewn rhai sefyllfaoedd y gallai fod gan y 'person sy'n derbyn gofal' rai cyfrifoldebau gofalu ac y gallai fod angen gofalu am ofalwyr anffurfiol a gofalwyr cyflogedig ar adegau.

Yn yr adran hon, byddwch yn datblygu ymwybyddiaeth o broblemau iechyd meddwl. Byddwch yn ystyried opsiynau gofal a thriniaeth ar gyfer unigolion sydd wedi cael diagnosis o un o sawl salwch meddwl. Yna, byddwch yn astudio rôl gofalwyr teuluol sy'n gofalu am ffrind neu berthynas sydd â phroblemau iechyd meddwl, a'u cydberthynas a'u hymgysylltiad â gwasanaethau iechyd meddwl.

Caiff yr adran ei rhannu'n bum pwnc a dylai gymryd tua hanner awr i chi astudio a chwblhau pob un o'r rhain. Mae'r pynciau fel a ganlyn:

  1. Mae Terminoleg ac iechyd meddwl yn trafod y gwahaniaeth rhwng iechyd meddwl da a phroblemau iechyd meddwl. Mae'n cyflwyno'r model biomeddygol fel dull gweithredu ar gyfer gofal a thriniaeth ac mae'n amlinellu rhai o ddiffygion y model hwn.
  2. Mae Mathau o broblem iechyd meddwl yn disgrifio arwyddion a symptomau problemau iechyd meddwl penodol.
  3. Mae Profi problemau iechyd meddwl yn archwilio sut y gall problemau iechyd meddwl effeithio ar yr unigolyn.
  4. Mae Gofal a thriniaeth iechyd meddwl yn amlinellu mai nod gofal iechyd meddwl yn canolbwyntio yw adferiad, ac mae'n trafod triniaeth benodol ar gyfer mathau penodol o broblemau iechyd meddwl.
  5. Mae Profiad gofalwyr yn trafod effaith problemau iechyd meddwl ar ofalwyr teuluol a sut y gall gofalwyr ymgysylltu â gwasanaethau iechyd meddwl.