Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gofalu am oedolion
Gofalu am oedolion

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

1 Galluedd meddyliol

Mae'r gyfraith yn dweud bod yn rhaid i chi ddechrau o'r safbwynt bod gan bawb y galluedd i wneud penderfyniadau am eu bywydau. Caiff rhai pobl eu geni â galluedd cyfyngol: yn sgil niwed i'r ymennydd, er enghraifft. Bydd pobl eraill yn colli eu gallu i ddeall gwybodaeth a gwneud penderfyniadau amdanynt eu hunain drwy ddamwain, salwch neu broses heneiddio ddirywiol.

Er mwyn deall yn well sut mae galluedd yn ymwneud â'r rôl ofalu, byddwch i ddechrau yn gweld beth yw galluedd a sut y gallai effeithio ar berson sy'n derbyn gofal. Byddwch yn mynd ymlaen i ddysgu am sut y caiff galluedd ei asesu ac yna sut y gall galluedd y person sy'n derbyn gofal effeithio ar y rôl ofalu. Bydd yr hyn y byddwch yn ei ddysgu o'r pwnc hwn yn eich helpu i werthfawrogi'r cysylltiad rhwng galluedd meddyliol a chymryd risgiau cadarnhaol. I'r person sy'n derbyn gofal, mae cael y galluedd meddyliol i wneud penderfyniadau yn elfen bwysig o allu barnu amlygiad i risg.

Gweithgaredd 1

Timing: Dylech neilltuo tua 10 munud

Myfyriwch ar beth rydych yn ei wybod am ddementia neu gyflwr iechyd difrifol arall, fel strôc, a gwnewch restr o'r ffyrdd y gellid effeithio ar alluedd meddyliol y person sy'n derbyn gofal.

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Sylwadau

Un nodwedd sy'n gysylltiedig â dementia yw bod y person yn raddol yn colli ei allu dros gyfnod o amser i gofio a meddwl yn glir. Gall rhai cyflyrau iechyd fel damweiniau cardiofasgwlaidd (strôc) gael yr un effaith. Wrth gwrs, gall hyn olygu y caiff gallu person i ddeall gwybodaeth a gwneud penderfyniadau yn seiliedig ar y wybodaeth honno ei atal. Gallai galluedd meddyliol effeithio ar berson sy'n derbyn gofal mewn nifer o ffyrdd: er enghraifft, ni all reoli ei faterion ariannol mwyach, neu ni all benderfynu beth i'w fwyta neu pa ddillad i'w gwisgo sy'n briodol ar gyfer y tywydd.

Caiff sut y caiff galluedd ei bennu ei reoli yn ôl y gyfraith. Y gyfraith berthnasol yn yr Alban yw Deddf Oedolion ag Analluedd (yr Alban) 2000. Ar adeg ysgrifennu'r ddogfen hon, mae Cynulliad Gogledd Iwerddon yn ystyried Bil Galluedd Meddyliol. Yng Nghymru a Lloegr, Deddf Galluedd Meddyliol 2005 yw'r ddeddfwriaeth sylfaenol sy'n nodi beth yw galluedd a sut y caiff galluedd unigolyn ei reoli.

Yn hanfodol, mae'r Ddeddf Galluedd Meddyliol yn nodi nad oes gan berson alluedd os na all wneud penderfyniad drosto'i hun mewn perthynas â mater penodol ar adeg benodol. Mae'n cydnabod y gall y gallu i wneud penderfyniadau newid yn ôl amgylchiadau. Er enghraifft, os nad oes gan berson y galluedd i reoli ei faterion ariannol ar un adeg, ni ddylid tybio'n awtomatig nad oes ganddo alluedd i reoli ei faterion ariannol fyth eto.

Efallai y bydd dementia, anabledd dysgu neu anaf ar yr ymennydd yn effeithio'n barhaol ar alluoedd person. Fodd bynnag, nid yw'n gysylltiedig ag unrhyw gyflwr penodol, ac mae'n dibynnu ar gynnal asesiad cyn i unrhyw benderfyniad gael ei wneud ar alluedd. Gallai galluedd fod yn rhywbeth dros dro hefyd. Efallai y bydd person hŷn yn mynd yn ddryslyd dros dro oherwydd clefyd y llwybr wrinol, er enghraifft, ond yna'n cael triniaeth ac yn gwella ac yn adennill ei allu i wneud penderfyniadau hyddysg.

Yn y rhan nesaf, byddwch yn dysgu mwy am Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 a sut y gallai warchod y person sy'n derbyn gofal.