1.3 Capasiti meddyliol a gwneud penderfyniadau
Os nad oes gan y person sy'n derbyn gofal y galluedd i wneud penderfyniad, yna gallai fod yn rhaid i rywun arall wneud y penderfyniad ar ei ran. Yn aml iawn, y gofalwr sy'n derbyn y cyfrifoldeb hwn. Fodd bynnag, mae adegau pan nad y gofalwr fydd yn gyfrifol.
Fel arfer, caiff rhai penderfyniadau am wasanaethau gofal cymdeithasol lle mae angen arian neu driniaeth ar gyfer cyflwr iechyd eu gwneud gan weithiwr proffesiynol iechyd neu ofal cymdeithasol. Fodd bynnag, er bod y math hwn o benderfyniad y tu hwnt i gyfrifoldeb y gofalwr, dylid ymgynghori â'r gofalwr o hyd a gofyn am gyngor gan mai ef fydd yn adnabod y person sy'n derbyn gofal orau fel arfer.
Mae'r gyfraith yn dweud bod yn rhaid gwneud unrhyw benderfyniadau 'er budd gorau' y person sy'n derbyn gofal. Mae hyn yn golygu ystyried yr holl ffactorau perthnasol, yn cynnwys:
- ymgynghori â'r gofalwr ac unrhyw aelodau eraill o'r teulu a ffrindiau agos
- cynnwys y person sy'n derbyn gofal cymaint â phosibl a gwrando ar yr hyn sydd ganddo i'w ddweud
- ystyried safbwyntiau, gwerthoedd a chredoau'r person sy'n derbyn gofal yn y gorffennol
- cyfyngu cyn lleied â phosibl ar ryddid y person.
Pan ofynnir i'r gofalwr helpu, mae'n bwysig y caiff ei safbwyntiau eu hystyried. Gallwch wneud hyn drwy wrando arno a chofio bod ganddo ddealltwriaeth well nag unrhyw un arall o'r person sy'n derbyn gofal fel arfer.