Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gofalu am oedolion
Gofalu am oedolion

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

Mathau o dechnoleg gynorthwyol

Gellir categoreiddio technoleg gynorthwyol mewn tair ffordd:

  • Cyfathrebu cynyddol neu amgen

Mae hyn yn cyfeirio at brosesau a chyfarpar i helpu cyfathrebu un i un; er enghraifft, popeth o baslyfrau cyfathrebu (sy'n egluro cefndir a dewisiadau person) i 'grid' (bwrdd Perspex gyda geiriau o amgylch gofod gwag fel y gall y derbynnydd weld pa air y mae'r defnyddiwr yn edrych arno) i ddyfeisiau electronig sy'n siarad ar ran y person (Primo).

  • Technoleg cyfathrebu gynorthwyol

Ar gyfer pobl â nam ar eu lleferydd, fel y sawl sy'n byw gyda chyflyrau fel parlys yr ymennydd, awtistiaeth neu strôc, gall dyfeisiau creu lleferydd helpu i wella eu galluoedd presennol neu roi llais iddynt pan fydd nam difrifol ar eu lleferydd.

  • Technoleg amgylcheddol gynorthwyol

Mae'r technolegau hyn yn helpu person i ymgysylltu â'r gofod y mae'n byw ynddo, a gall agor a chau drysau a ffenestri, llenni a bleinds. Gall droi goleuadau ymlaen ac i ffwrdd, a rheoli gwres yn ogystal â systemau adloniant cartref. Gall y dechnoleg hefyd ateb a gwneud galwadau ffôn, seinio larwm neu alwadau nyrsys, a rheoli symudiadau gwely.