Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gofalu am oedolion
Gofalu am oedolion

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

3 Yr arfer lleiaf cyfyngol

Beth rydych chi wedi'i wneud heddiw y gellid ei ystyried yn beryglus? Efallai eich bod wedi gyrru car, wedi croesi'r ffordd, wedi gwneud cwpanaid o de, wedi mynd â'r ci am dro ...

imagesimages
Y ddelwedd a ddisgrifir
(a) Menyw yn mynd i mewn i dacsi cyn iddo yrru i ffwrdd
Y ddelwedd a ddisgrifir
(b) Croesi ffordd brysur
Y ddelwedd a ddisgrifir
(c) Mae risgiau posibl yn gysylltiedig â gwneud cwpanaid o de, o ran trydan a sgaldio
Y ddelwedd a ddisgrifir
(ch) Mynd â'r ci am dro

Ffigur 6 Gweithgareddau llawn risg?

  • Wyddech chi pa risgiau rydych yn eu cymryd bob diwrnod?
  • Os bydd rhywun yn dweud wrthych yn annisgwyl na allwch yrru oherwydd y risgiau dan sylw, beth fyddech chi'n ei ddweud?
  • Pe na fyddech chi'n cymryd risg erioed, beth fyddai'n digwydd? Fyddech chi'n tyfu fel person?
  • Ydych chi'n ystyried risg yn rhywbeth cadarnhaol neu'n negyddol?

Yn aml, mae risgiau yn gysylltiedig ag anaf, colled, perygl, niwed neu fygythiad, ac os caiff risg ei hystyried yn negyddol, gellir ei defnyddio fel esgus i atal pobl rhag gwneud rhywbeth.

Er enghraifft, gall rhai pobl ystyried y gallai taliadau uniongyrchol a chyllidebau personol olygu bod mwy o bobl yn wynebu risg o gael eu cam-drin a'u hecsbloetio; gall eraill deimlo eu bod yn lleihau risg drwy roi mwy o reolaeth i bobl dros eu bywydau.

Mae cymryd risgiau yn rhan o fywyd bob dydd -– a byddai bywyd heb risgiau yn ddiflas iawn. Er ei bod yn bwysig ceisio nodi risgiau ymlaen llaw a lleihau'r tebygolrwydd y byddant yn digwydd, ni ddylai hyn fod yn esgus dros atal pobl rhag cael dewis a rheolaeth dros eu bywydau.

Ydych chi'n hoffi cael diod yn y dafarn neu fynd am bryd o fwyd gyda ffrindiau? Mae'n gyfle i gymdeithasu a chael sgwrs, sy'n bwysig i ni am bob math o resymau gwahanol. Ond efallai bod rhywun wedi dweud wrthych fod angen i chi golli pwysau, neu fod angen i chi yfed llai o alcohol am eich bod yn yfed mwy na'r terfynau a argymhellir. Gallwch bwyso a mesur hynny a gwneud dewis – ydych chi'n mynd i'r dafarn/bwyty neu ydych chi'n aros gartref ac yn bwyta pryd iach?

Pe byddai'r dewis hwnnw'n cael ei gymryd oddi wrthych, sut fyddech chi'n teimlo?

Rhaid cael cydbwysedd ac mae angen i chi sicrhau nad ydych yn atal rhywun rydych yn gofalu amdano rhag cael yr hawl i wneud rhywbeth dim ond am nad ydych yn credu ei fod o fudd iddynt. Mae angen i chi rymuso pobl a'u helpu i fanteisio ar gyfleoedd a mentro – a bod yn gadarnhaol ynghylch risgiau posibl.

Os byddwch yn ceisio atal pobl rhag gwneud rhywbeth y gellid ystyried ei fod yn beryglus, gallech fod yn atal rhywun rhag gwneud rhywbeth y mae ganddynt hawl i'w wneud.

Weithiau, gall fod yn anodd i ofalwyr wybod ble mae'r ffiniau o ran beth y gallant/na allant ei wneud neu beth y dylent/na ddylent ei wneud. Yn y gweithgaredd nesaf, byddwch yn edrych ar enghraifft, ac yn ysgrifennu beth fyddai eich cyfrifoldebau yn eich barn chi mewn perthynas â'ch gofal o Sheila.

Gweithgaredd 7

Timing: Dylech neilltuo tua 10 munud

Darllenwch y senario isod ac yna atebwch y cwestiynau sy'n dilyn.

Senario

Dychmygwch eich bod yn gweithio mewn cartref preswyl, ac mai Sheila yw un o'r bobl rydych yn gofalu amdanynt. Mae gan Sheila ddiabetes y mae'n ei reoli drwy ei deiet. Un o'r pethau y mae hyn yn ei olygu yw bod yn rhaid iddi gyfyngu ar faint o siwgr y mae'n ei fwyta, oherwydd y gall bwyta gormod o siwgr ei gwneud yn sâl yn gyflym iawn.

Mae Sheila yn mwynhau mynd i'r siopau lleol: mae'n hoffi prynu losin a thuniau o cola ac yn aml mae'n bwyta ac yn yfed mwy nag y dylai, sy'n ei gwneud yn sâl. Mae'r bobl sy'n helpu Sheila yn poeni am ei hiechyd ond pan fyddant yn ceisio siarad â hi am ei phryderon, mae'n dweud, 'Fy newis i ydyw’.

  • Beth yw cyfrifoldebau gofal y staff sy'n helpu Sheila?
  • Beth y gallent geisio ei wneud i helpu Sheila yn well?
I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Sylwadau

Byddai cyfrifoldebau craidd y staff yn cynnwys:

  • rhoi cyngor am ddeiet
  • helpu Sheila i wneud dewis deallus
  • helpu Sheila i gael gafael ar ddietegydd
  • gwneud yn siŵr bod dewisiadau iach ar gael i Sheila pan fydd yn amser bwyd.

Ymysg y syniadau o'r pethau y gallai'r staff roi cynnig arnynt i'w cynnwys wrth helpu Sheila mae edrych ar opsiynau amgen; e.e. melysion diabetig, diodydd disiwgr a rhoi mwy o wybodaeth iddi am ei chyflwr fel y gall wneud dewisiadau gwell.

Beth na all y staff ei wneud yw:

  • atal Sheila rhag prynu cola a losin
  • cymryd cola a losin Sheila oddi arni neu ei hatal rhag eu bwyta
  • gwneud i Sheila ddewis yr opsiwn iach sydd ar gael.