3.1 Amddifadu o ryddid a chyfyngiadau
Er mwyn eich annog i ddechrau meddwl yn ehangach am y pwnc hwn a beth mae'n ei olygu i ofalwyr, edrychwch ar y fideo hwn am Tim a'i awydd am bysgod a sglodion.
Transcript: Gweithio mewn ffordd sy'n grymuso - pysgod a sglodion
Gweithio mewn ffordd sy'n grymuso - pysgod a sglodion
Mae'r Trefniadau Diogelu Person Rhag Cael ei Amddifadu o'i Ryddid yn rhan o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] . Y nod yw sicrhau bod pobl sy'n derbyn gofal yn cael gofal mewn ffordd nad yw'n cyfyngu ar eu rhyddid fwy nag sydd ei angen. Dylai'r mesurau diogelwch sicrhau y dylid ond gwneud hyn pan fydd er budd gorau i'r person ac nad oes ffordd arall o ofalu amdano.
Mae penderfyniad llys diweddar wedi rhoi diffiniad o ystyr 'amddifadu o ryddid'. Bydd person yn cael ei amddifadu o'i ryddid pan fydd dan oruchwyliaeth a rheolaeth barhaus ac nid yw'n rhydd i adael, ac nid oes gan y person alluogrwydd i gydsynio i'r trefniadau hyn.
Dylid cynnal asesiad risg o unrhyw fath o gyfyngiad o fewn lleoliad gofal (yn cynnwys cartref y person) a chael cydsyniad ar gyfer y weithred benodol. Os nad oes gan rywun alluedd, ac y gwneir trefniadau ar ei ran, dylid dewis yr 'opsiwn lleiaf cyfyngol' bob amser, yn enwedig os yw'r cyfyngiadau a ddefnyddir yn golygu bod gan ofalwyr reolaeth lwyr ac effeithiol oherwydd y gallai hyn olygu bod y person yn cael ei amddifadu o'i ryddid.
Gweithgaredd 8
Darllenwch yr erthygl hon o'r Daily Mail (2012), sy'n rhoi enghraifft o'r ffordd y defnyddiwyd y Trefniadau Diogelu Person Rhag Cael ei Amddifadu o'i Ryddid i orddiogelu rhywun.
Sylwadau
Er bod gan y person dan sylw ddementia, ni ellid profi na allai wneud penderfyniad ynghylch mynd ar wyliau.
Roedd y cwpwl wedi bod ar sawl mordaith yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf, felly byddai ganddi ddealltwriaeth o ystyr y penderfyniad.
Roedd y cyngor wedi bod yn meddwl mwy ynghylch dod o hyd i ffyrdd o'i hatal rhag mynd ar fordaith na dod o hyd i ffyrdd o wneud hyn yn bosibl.