3.2 Chwilio am yr opsiwn lleiaf cyfyngol
Pan fydd pobl broffesiynol yn siarad am ddefnyddio'r 'opsiwn lleiaf cyfyngol' ar gyfer pobl sy'n derbyn gofal, bydd rhai pobl o'r farn bod hyn yn golygu gadael i'r person wneud beth bynnag y mae'n dymuno ei wneud, hyd yn oed os yw hynny'n golygu ei fod yn wynebu risg. Bydd y defnydd o'r opsiwn lleiaf cyfyngol ond yn berthnasol os ystyrir nad oes gan y bobl rydych yn gofalu amdanynt alluedd o dan y Ddeddf Galluedd Meddyliol a dylid ond ei defnyddio os nad oes ffordd well o gyflawni'r dasg. Dylai pawb sy'n darparu gofal fod yn gyfforddus wrth asesu galluedd, ond cofiwch, dim ond am fod rhywun yn gwneud penderfyniad sy'n annoeth ym marn pobl eraill, nid yw'n golygu nad oes galluedd ganddo – mae pob un ohonom yn gwneud pethau annoeth weithiau hyd yn oed pan fydd gennym alluedd!
Mae galluedd yn benodol i benderfyniad ac yn benodol i amser: a all y person wneud y penderfyniad hwn ar yr adeg y mae angen ei wneud? Mae'r gyfraith yn nodi bod yn rhaid i ni wneud popeth posibl er mwyn gwella gallu unigolyn i wneud ei benderfyniadau ei hun.
Gweithgaredd 9
Darllenwch am Johnny ac yna penderfynwch ym mha faes o'i fywyd y mae angen iddo gael help wrth wneud penderfyniadau.
Astudiaeth achos: Johnny
Mae Johnny yn byw mewn cartref gofal.
- Mae'n hoffi gwisgo ei git Manchester United pan fydd y tîm yn chwarae.
- Mae teulu Johnny wedi rhybuddio ei weithwyr cymorth y bydd yn ceisio mynd at ffyrdd mawr i edrych ar lorïau pan fydd yn teimlo'n arbennig o orbryderus: mae wedi cael ei ganfod ar lain galed y draffordd sawl gwaith.
- Mae Johnny yn mynd yn bryderus ac yn orbryderus pan fydd angen iddo fynd at y meddyg neu'r nyrs.
- Os bydd yn mynd yn orbryderus, all Johnny ddim gwrando'n iawn, sy'n ei gwneud hi'n anodd iddo wneud penderfyniadau.
Sut y gellir helpu Johnny? Ysgrifennwch eich meddyliau yn y gofod isod.
Sylwadau
Gallai pobl sy'n gofalu am Johnny chwilio am ffyrdd o wella ei allu i wneud penderfyniadau. Efallai y gallent ofyn i'w deulu am awgrymiadau ar sut i wneud hyn.
Gallent hefyd gael gwybod mwy am beth sy'n gwneud Johnny yn orbryderus, ac yn enwedig yn rhy orbryderus i wrando'n iawn. Mae'n siŵr y bydd yn ei helpu i roi cymaint o amser â phosibl iddo wneud penderfyniadau mawr neu sy'n creu gorbryder, ac i ailadrodd gwybodaeth mewn ffyrdd gwahanol, er enghraifft, drwy ddefnyddio lluniau.
Ar gyfer penderfyniadau bach, fel gwisgo ei ddillad pêl-droed, nid oes rheswm dros feddwl nad oes gan Johnny alluedd: mae'n eu gwisgo pan mae ei dîm yn chwarae. Hyd yn oed os nad oes ganddo alluedd, nid oes risg yn gysylltiedig â'i ddewis, felly dylid ei barchu a'i ganmol: mae'n dda gallu gwneud dewisiadau ac mae'n gwneud hynny.
Mae angen i'r staff sy'n helpu Johnny asesu ei allu i ddeall y risg sy'n gysylltiedig â mynd wrth ffyrdd mawr, prysur. Er enghraifft, efallai na all gofio bod y traffig yn mynd yn gyflym iawn ac y gall orfod dod ar y llain galed, neu efallai y gall gofio'r wybodaeth hon ond na all Johnny ei defnyddio i benderfynu peidio â mynd ar y draffordd.
Os bydd y staff yn penderfynu nad oes ganddo'r galluedd i wneud ei benderfyniad yn ddiogel, yna rhaid iddynt wneud penderfyniad er budd gorau i Johnny ynghylch sut i gynllunio ar gyfer yr amser pan allai fod angen iddo fynd i edrych ar lorïau neu sut y gallai edrych ar lorïau mewn ffordd fwy diogel na sefyll ar y llain galed.
Mae llawer mwy o risg yn gysylltiedig â diddordeb Johnny i edrych ar lorïau na ph'un a ddylai wisgo ei grys pêl-droed, a byddai'n hollol anghywir dweud, 'Dewis Johnny yw mynd i grwydro ar hyd y draffordd felly dylem adael iddo wneud hynny’.
Ond ni ddylem gyfyngu ar ei ryddid mwy na'r hyn sy'n hollol angenrheidiol. Byddai'n llawer rhy gyfyngol, ac ni fyddai'n gymesur i'r risg o niwed, i gloi Johnny yn y tŷ a gwrthod iddo gael mynd allan i'r awyr agored gan fod risg y bydd yn rhedeg ar ôl lorïau weithiau.
Rhaid i bopeth a wnewch a allai gyfyngu ar ryddid person i weithredu ddilyn yr opsiwn lleiaf cyfyngol a fydd yn diwallu'r angen -– mae a wnelo hyn â mwy na dim ond gadael i berson sy'n agored i niwed wneud beth bynnag y mae am ei wneud. Mae'n golygu ei gadw'n ddiogel tra'n cyfyngu cyn lleied â phosibl ar ei hawliau a'i ryddid.
Gweithgaredd 10
Beth fyddai'r opsiwn lleiaf cyfyngol i Johnny yn eich barn chi, a sut y gallach wneud y penderfyniad gorau er budd gorau iddo?
Sylwadau
Os yw'n bosibl, yr opsiwn gorau fyddai gofyn i Johnny pan mae wedi ymlacio beth y byddai'n hoffi i'r staff ei wneud os bydd yn mynd yn orbryderus. Gallech hefyd ymgynghori â'i deulu i gael gwybod mwy am yr hyn a allai ysgogi ei orbryder, a'r ffordd orau o ymateb i hyn.
Efallai y gallai cynllun gofal Johnny gynnwys amser 'edrych ar lorïau'n ddiogel' pan fydd yn mynd am dro gyda'i ofalwyr; gallai gael llyfr loffion o lorïau, neu gasglu rhai bach.
Drwy chwilio am y ffordd leiaf cyfyngol o ddiwallu angen, gellir datgelu creadigrwydd anhygoel, gan gynnwys y person sy'n derbyn gofal a phawb sy'n rhan o'i ofal. Mae'r boddhad o ganfod ateb creadigol sy'n cadw person yn ddiogel tra'n parchu ei hawliau yn un o'r pleserau sy'n gysylltiedig â darparu gofal cymdeithasol i oedolion.