Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gofalu am oedolion
Gofalu am oedolion

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

1 Pam y mae eich lles mor bwysig

Er bod y rhan fwyaf o bobl yn cael llawer o fudd o'r gydberthynas â'r bobl y maent yn eu helpu, yn aml, gall y cyfrifoldebau gael effaith negyddol ar eu hiechyd a'u lles cyffredinol. Gall gofalwyr ymroi cymaint o amser ac ymdrech i ofalu am rywun arall fel y gallant esgeuluso eu hiechyd eu hunain neu fethu â sylweddoli'r effaith y gall ei chael ar eu hiechyd eu hunain. Er mwyn i ofalwr allu parhau i ofalu gyhyd ag y bydd yn dymuno, mae'n bwysig bod yn ymwybodol o'r risgiau iechyd posibl. Gall y rhain fod yn gorfforol ac yn emosiynol.

Mae hyn yr un mor wir i bobl sy'n ofalwyr di-dâl ag y mae i bobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol.