1.1 Beth yw lles?
Pan fydd pobl yn trafod iechyd a lles emosiynol, a ydynt yn golygu hapusrwydd? Neu lefelau hyder? Neu deimlo'n fodlon?
Mae'n debygol bod yr ateb yn cynnwys elfen o bob un o'r rhai hynny ond byddai'n fan cychwyn da dychmygu ei fod yn deimlad o allu gwneud popeth rydych am ei wneud.
Yn aml, ein lles emosiynol neu feddyliol sy'n cael yr effaith fwyaf ar deimlo'n dda, ac mae straen a phroblemau bywyd bob dydd, yn cynnwys unigedd ac arwahanrwydd, gweithio oriau hir a theimlo na chawn gefnogaeth, yn cael effaith fawr ar ein lles meddwl.