Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gofalu am oedolion
Gofalu am oedolion

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

1.2 Gwella lles meddwl

Mae tystiolaeth yn awgrymu bod pum cam y gall pob un ohonom eu cymryd er mwyn gwella ein lles meddwl. Os byddwch yn ystyried pob un â meddwl agored ac yn rhoi cynnig arnynt, gallwch weld y canlyniadau eich hun.

Gweithgaredd 1

Timing: Dylech neilltuo tua 15 munud

Rhan 1

Gwyliwch y fideo hwn gan y GIG am y pum cam i les meddwl

Download this video clip.Video player: nnco_carers_sec5_vid1.mp4
video still
Copy this transcript to the clipboard
Print this transcript
Dangos y trawsgrifiad | Cuddio'r trawsgrifiad
 
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Mae gan y GIG ragor o wybodaeth ar ei wefan [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] am ystyr y termau hyn:

  • Cysylltu - cysylltu â'r bobl o'ch cwmpas: eich teulu, ffrindiau, cydweithwyr a chymdogion. Treulio amser yn meithrin y cydberthnasau hyn.
  • Bod yn weithgar - nid oes raid i chi fynd i'r gampfa. Beth am fynd am dro, mynd ar eich beic neu chwarae gêm o bêl-droed? Dewch o hyd i weithgaredd rydych yn ei fwynhau a'i wneud yn rhan o'ch bywyd.
  • Parhau i ddysgu - gall dysgu sgiliau newydd roi ymdeimlad o gyflawniad a hyder newydd i chi. Felly beth am gofrestru ar gyfer y cwrs coginio hwnnw, dechrau dysgu sut i chwarae offeryn cerddorol, neu ddysgu sut i drwsio eich beic?
  • Rhoi i eraill - gall hyd yn oed y weithred leiaf gyfrif, drwy wên, diolch neu air caredig. Gall gweithredoedd mwy, fel gwirfoddoli yn eich canolfan gymuned leol, wella eich lles meddwl a'ch helpu i greu rhwydweithiau cymdeithasol newydd.
  • Bod yn ystyrlon - byddwch yn fwy ymwybodol o'r presennol, yn cynnwys eich teimladau a'ch meddyliau, eich corff a'r byd o'ch cwmpas. Mae rhai pobl yn galw'r ymwybyddiaeth yn 'ymwybyddiaeth ofalgar'. Gall newid y ffordd rydych yn meddwl am fywyd a sut rydych yn mynd i'r afael â heriau.
(Ffynhonnell: y GIG, 2016)

A all y camau hyn ddod yn rhan o'ch 5-y-dydd?

Rhan 2

Ar ôl gwylio'r fideo a darllen am y pum cam, ystyriwch p'un a ydych eisoes yn gwneud rhai o'r pethau hyn neu p'un a allech wneud mwy. Ar gyfer pob cam, ceisiwch ysgrifennu un peth y gallech ei wneud er mwyn gwella eich lles meddwl.

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Sylwadau

Efallai eich bod wedi ysgrifennu:

  • Mynd allan ychydig yn amlach yn fy ardal leol a chyfarch y bobl y dof ar eu traws.
  • Cysylltu'n amlach â theulu a ffrindiau dros y ffôn neu drwy e-bost gan nad wyf yn eu gweld yn aml.
  • Dysgu sgil newydd neu ddechrau hobi (does dim rhaid iddo fod yn ddrud a gallwch gael gwybodaeth am grwpiau neu ddosbarthiadau mewn llyfrgelloedd a chanolfannau cymunedol, neu ar-lein).
  • Gwirfoddoli ag elusen.
  • Meddyliwch am y pethau da sydd wedi didgwydd bob dydd – mae hyn yn gam i gyflawni ymwybyddiaeth ofalgar. Nid yw ymwybyddiaeth ofalgar yn digwydd dros nos ond, gydag ymarfer, bydd llawer o bobl yn gweld ei bod yn ffordd ddefnyddiol o wella eu lles emosiynol.

Nawr, hoffem i chi ystyried y bobl rydych yn eu helpu. Mae eu lles yr un mor bwysig â'ch lles chi, ond pa mor hawdd ydyw iddynt wneud rhai o'r pethau ar y rhestr pum cam?

Gweithgaredd 2

Timing: Dylech neilltuo tua 5 munud

Nodwch mewn dwy neu dair brawddeg pam rydych yn meddwl y gallai fod yn anodd i'r person rydych yn gofalu amdano ymgorffori'r pum cam yn ei bywyd.

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Sylwadau

Efallai bod y bobl rydych yn gofalu amdanynt yn cael trafferth i gysylltu â'u cymuned leol am eu bod yn ei chael hi'n anodd cyfathrebu neu eu bod yn poeni na fydd pobl yn eu derbyn oherwydd anabledd neu gyflyrau eraill sy'n eu hanalluogi yn gymdeithasol.

Efallai eu bod yn amharod i ddysgu pethau newydd am eu bod wedi dweud wrthyn nhw eu hunain, neu wedi cael gwybod gan bobl eraill, na allant ddysgu unrhyw beth newydd, ac efallai eu bod wedi dod i arfer â bywyd o anweithgarwch.

Drwy gymryd mwy o ran yn eu cymuned, bydd y bobl rydych yn gofalu amdanynt yn gallu gweld bod sawl ffordd o gael gwybod beth sy'n digwydd o'u hamgylch ac i helpu eraill mewn sawl ffordd, bach a mawr.