2 Ymdopi â straen
Bellach, mae ein bywydau mor brysur, mae straen mor gyffredin mae wedi dod yn ffordd o fyw. Nid yw bob amser mor wael â hynny, a gall swm penodol o straen eich helpu i berfformio dan bwysau, eich ysgogi i wneud eich gorau, a'ch cadw'n ddiogel hyd yn oed mewn sefyllfaoedd a allai fod yn beryglus. Pan fydd straen yn mynd yn llethol, gall niweidio eich iechyd, eich hwyliau, eich cydberthnasau ac ansawdd eich bywyd.
Gallwch ddiogelu eich hun drwy ddeall sut mae ymateb y corff i straen yn gweithio, gan adnabod arwyddion a symptomau gormod o straen, a chymryd camau i leihau ei effeithiau niweidiol.