Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gofalu am oedolion
Gofalu am oedolion

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

2.1 Beth yw straen?

Straen yw dull y corff o ymateb i unrhyw fath o alw neu fygythiad. Pan fyddwch yn teimlo dan fygythiad, bydd eich system nerfol yn ymateb drwy ryddhau hormonau straen, sy'n paratoi'r corff ar gyfer gweithredu mewn achos brys. Bydd eich calon yn curo'n gyflymach, bydd eich cyhyrau'n tynhau, bydd pwysedd eich gwaed yn codi, bydd eich anadl yn cyflymu a bydd eich synhwyrau yn cael eu dwysáu. Bydd y newidiadau hyn yn eich helpu i ddelio â'r 'perygl' y mae eich corff yn meddwl sydd ar ddod.

Gelwir hyn yn ymateb straen 'ymladd neu ffoi' a dyma ffordd eich corff o'ch gwarchod. Pan fydd yn gweithio'n iawn, bydd straen yn eich helpu i gadw eich ffocws, eich egni a'ch gallu i gadw'n effro – er enghraifft, rhoi mwy o nerth i chi amddiffyn eich hun neu eich annog i roi eich troed ar y brêc er mwyn osgoi damwain.

Mae straen hefyd yn eich cadw ar flaenau eich traed yn y gwaith, yn dwysáu eich ffocws neu'n eich cymell i astudio ar gyfer arholiad pan fyddai'n well gennych fod yn gwylio'r teledu.

Dyma yw straen cadarnhaol yn ein barn ni ond, y tu hwnt i'r hyn sy'n gysurus i chi, bydd straen yn peidio â bod yn ddefnyddiol a gall ddechrau achosi niwed mawr i'ch meddwl a'ch corff.