2.2 Sut rydych chi'n ymateb i straen?
Mae gan bob mamal, yn cynnwys pobl, dair ffordd o ymateb i straen:
- Ymgysylltiad cymdeithasol – gwneud cyswllt llygad, gwrando ar eraill a theimlo bod pobl yn eich deall. Gall hyn eich helpu i ymlacio ac osgoi gweithredoedd amddiffynnol fel yr ymateb 'ymladd neu ffoi'. Mae'n eich helpu i feddwl yn gliriach, a bydd pethau fel pwysedd gwaed a churiad y galon yn parhau i weithio'n normal.
- Ymfyddino (neu ymateb 'ymladd neu ffoi'). Dyma pryd y mae angen i ni (pan fyddwn yn meddwl bod angen i ni) amddiffyn ein hunain neu ffoi rhag perygl. Bydd ein cyrff yn paratoi i weithredu, gan ryddhau'r hormonau hynny y cyfeiriwyd atynt yn gynharach, a bydd ein systemau treulio ac imiwnedd yn dod i stop. Pan fydd y perygl wedi pasio, bydd y system nerfol yn helpu'r corff i ymlacio, gan arafu curiad y galon, gostwng y pwysedd gwaed ac yn adfer y sefyllfa.
- Llonyddu – dyma'r ymateb mwyaf cyntefig i straen, a dim ond pan fydd yr ymatebion eraill wedi methu y caiff ei ddefnyddio. Ychydig fel cwningen wedi'i dal yng ngolau car, efallai y byddwch yn cael eich 'rhewi' neu'n llawn panig. Mae rhai pobl hyd yn oed yn mynd yn anymwybodol os bydd eu bywyd mewn perygl. Mae'r cyflwr hwn yn eu helpu i oroesi lefelau uchel o boen corfforol, ond nes iddynt ddadebru eto, efallai na fydd eu system nerfol yn gallu dychwelyd i'w gyflwr cyn y straen.
Gweithgaredd 3
Meddyliwch am sefyllfaoedd yn eich bywyd eich hun i weld a allwch gofio amser pan wnaethoch ddefnyddio pob un o'r ymatebion straen a restrir uchod. Ysgrifennwch frawddeg am bob un ohonynt.
Ymgysylltu cymdeithasol
Gadael sylw
Er mai ymgysylltiad cymdeithasol yw'r ymateb iachaf i straen mae'n debyg, nid yw bob amser yn bosibl ymateb fel hyn. Mae llawer ohonom wedi dod i arfer ag ymateb i sefyllfa sy'n achosi straen drwy fynd yn syth i ddull 'ymladd neu ffoi', a all, dros amser, godi pwysedd gwaed, gwanhau’r system imiwnedd, cynyddu'r risg o drawiad ar y galon a strôc, cyflymu'r broses heneiddio a'ch gwneud yn agored i gael problemau iechyd meddwl ac emosiynol.
Canfu arolwg a gynhaliwyd yn 2015 gan Direct Line Insurance mai'r 10 sefyllfa oedd yn creu'r straen mwyaf i bobl ym Mhrydain oedd:
- Methu â chysgu (46 y cant)
- Colli eich allweddi (37 y cant)
- Cael eich dal mewn traffig pan fyddwch eisoes yn hwyr (35 y cant)
- Colli papur neu ddogfen bwysig (33 y cant)
- Methu â chael lle i barcio (32 y cant)
- Yr argraffydd ddim yn gweithio pan fydd angen i chi argraffu rhywbeth (31 y cant)
- Eich ffôn yn rhedeg allan o fatri pan fyddwch allan (31 y cant)
- Rhedeg allan o bapur pan fyddwch yn y tŷ bach (31 y cant)
- Delio â gwasanaeth cwsmeriaid sy'n cael ei weithredu gan beiriant (26 y cant)
- Anghofio eich cerdyn banc wrth dalu am eitem (25 y cant)
Gormod o straen
Nid yw ein cyrff yn gwybod y gwahaniaeth rhwng ffactorau sy'n achosi straen a digwyddiadau sy'n bygwth bywyd. Os ydych dan straen oherwydd dadl â ffrind, tagfeydd traffig ar eich ffordd i'r gwaith, neu bentwr o filiau, er enghraifft, gall eich corff ymateb o hyd fel pe baech yn wynebu sefyllfa lle mae bywyd yn y fantol.
Bydd straen yn achosi neu'n gwaethygu llawer o broblemau iechyd, yn cynnwys:
rhestr o eitemau | rhestr o eitemau |
---|---|
|
|