Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gofalu am oedolion
Gofalu am oedolion

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

2.3 Sut i reoli straen

Mae elusen Mind wedi cyhoeddi llyfryn, Sut i Reoli Straen (2015). Mae'n cynnwys llawer o wybodaeth ddefnyddiol am fyw gyda straen a sut i'w reoli.

Nid yw straen yn ddiagnosis meddygol felly nid oes triniaeth benodol ar ei gyfer, ond os ydych yn cael trafferth ymdopi â phethau yn eich bywyd a'ch bod dan straen, mae triniaethau ar gael a allai helpu. I gael mynediad at y rhan fwyaf o'r rhain, y cam cyntaf fel arfer yw siarad â'ch meddyg.

Weithiau, gall helpu i siarad â gweithiwr proffesiynol hyfforddedig. Gall therapïau siarad, fel cwnsela a therapi gwybyddol ymddygiadol eich helpu i ddelio â straen a'ch gwneud yn fwy ymwybodol o'ch meddyliau a'ch teimladau a pham rydych yn ymddwyn mewn ffyrdd penodol. Gall ymarfer 'ymwybyddiaeth ofalgar' (y gwnaethom sôn amdano yn gynharach) eich helpu i ddelio â straen drwy osod eich hun yn y presennol a pheidio â phoeni am bethau na allwch wneud dim amdanynt.

Mae rhai pobl yn meddwl y gall treulio amser yn yr awyr agored yng nghanol byd natur helpu i leihau straen. Gallai hyn gynnwys gwneud ymarfer corff yn yr awyr agored fel rhedeg neu gerdded, hyd yn oed tai chi, neu arddio a phrosiectau cadwraeth, ar eich pen eich hun neu fel rhan o grŵp.

Nid oes unrhyw feddyginiaeth benodol ar gyfer straen gan fod teimlo eich bod dan straen yn ymateb i bethau sy'n digwydd yn eich bywyd. Mae meddyginiaethau a all helpu i leihau neu reoli arwyddion straen, ac efallai y bydd eich meddyg yn rhagnodi cyffuriau gwrth-iselder, tabledi cysgu, tawelyddion ysgafn neu feddyginiaeth i drin symptomau corfforol straen fel pwysedd gwaed uchel. Neu, efallai y byddai'n well gennych roi cynnig ar therapïau amgen fel aciwbigiad neu aromatherapi. Nid yw'r rhain ar gael gan eich meddyg teulu fel arfer.