Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gofalu am oedolion
Gofalu am oedolion

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

3 Cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith a ffiniau proffesiynol

Yn y pwnc hwn, byddwch yn ystyried yr angen i wneud amser a bywyd oddi wrth eich cyfrifoldebau gofalu, cynnwys pobl eraill a phwysigrwydd ffiniau proffesiynol.

Mae'n siŵr y byddwch wedi clywed am bwysigrwydd cydbwysedd bywyd a gwaith a'r ffaith bod angen i ni gyflawni cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith er mwyn bod yn hapus a llwyddiannus. Mae llawer o negeseuon, erthyglau a sgyrsiau fideo am hyn ar-lein, ac rydym yn ei weld ar y teledu ac yn darllen amdano mewn papurau newydd a chylchgronau. Y broblem a geir â'r holl wybodaeth hon yw y gall wneud i ni deimlo ein bod yn methu os na fydd popeth yn mynd fel y dylai.

Ond i'r rhan fwyaf ohonom, nid yw'r cydbwysedd perffaith rhwng bywyd a gwaith yn bodoli! Mae a wnelo'r rhan cydbwyso ag ymdopi â natur newidiol bywyd a gwaith ac mae gofalu amdanoch eich hun yn rhan fawr o hyn.

Ar gyfer pobl y mae eu gwaith yn cynnwys gofalu am eraill, naill ai yn gyflogedig neu'n ddi-dâl, mae eich gwaith yn rhan bwysig o'ch bywyd – efallai ei bod yn helpu i dalu'r biliau ac yn rhoi ymdeimlad o bwrpas i chi. Gall gofalu am eraill fod yn werth chweil. Gall hefyd fod yn flinedig, yn anodd ac yn boenus.

Ond dim ond rhan o'n bywydau yw gwaith. Ar gyfer rhai gofalwyr, mae'n bwydo i bob agwedd ar ein bywyd, a dyna pam y bydd canfod ffordd o sicrhau cydbwysedd rhwng y rhan hon o fywyd a phopeth arall sy'n bwysig i ni yn gwneud i ni deimlo ein bod yn rheoli pethau ac felly bydd yn gwella ein lles.