4 Gofal sy'n canolbwyntio ar y person a hunanreolaeth
Mae gweithio mewn ffordd sy'n canolbwyntio ar y person ac annog pobl i reoli agweddau ar eu gofal eu hunain yn dda i chi ac i'r person neu'r bobl rydych yn gofalu amdano/amdanynt. Bydd dull o ofalu sy'n canolbwyntio ar y person yn canolbwyntio ar anghenion a nodau personol yr unigolyn, sy'n eu rhoi yng nghanol y cymorth a gânt.
Mae'r pwnc hwn yn sôn am annog y bobl rydych yn eu helpu i gymryd cyfrifoldeb dros eu gofal a'u rheolaeth eu hunain. Mae hyn yn bwysig i'w lles ac mae hefyd yn rhoi rhywfaint o amser i chi fwynhau'r person rydych yn ei helpu. Drwy helpu'r person sy'n derbyn gofal yn y ffordd sy'n gweithio orau iddo ef, gellir sicrhau lles emosiynol a chorfforol gwell i'r ddwy ochr.
Gweithgaredd 5
Gwrandewch ar y podlediad sain hwn am ddiwallu anghenion Jackie, sydd â nam ar ei golwg.
[O fewn y cwrs hwn yn unig y dylid defnyddio'r cynnwys sain hwn.]
Transcript: Byw â nam ar y golwg
Byw â nam ar y golwg: cymorth nyrs
Mae Jackie yn siarad am y ffaith bod angen i'w gofalwyr roi cymorth iddi a'i grymuso. Ceisiwch roi eich hun yn esgidiau gofalwr Jackie, a meddyliwch sut y byddech yn helpu rhywun sydd â nam ar ei olwg heb wneud iddo deimlo ei fod yn colli ei annibyniaeth.
- Sut mae Jackie yn teimlo yn eich barn chi?
- Beth y gellid ei wneud i wella ansawdd bywyd Jackie?
Sylwadau
Roedd Jackie yn poeni ynghylch peidio â chael diagnosis ar gyfer ei chyflwr, ac roedd yn teimlo na fyddai'r tîm gofal iechyd yn sylwi ar ei symptomau. Byddai angen i'w gofalwr fod yn gefnogol a gofalus o hyd, gan ofyn iddi siarad am y ffordd roedd yn teimlo a pha gymorth oedd ei angen arni.
Mae Jackie yn siarad am y cydbwysedd rhwng rhoi'r annibyniaeth i berson gyflawni tasgau bob dydd, a'i helpu i wneud hynny. Mae annibyniaeth Jackie yn bwysig iddi felly byddai angen i chi feddwl am ffyrdd o wneud iddi deimlo'n annibynnol, fel ei helpu i gael gwybod am gymhorthion i'w galluogi i gyflawni tasgau ar ei phen ei hun, ond gan fod wrth law o hyd i gynnig help os bydd ei angen arni.
Gall Jackie elwa o dechnoleg gynorthwyol i wella ansawdd ei bywyd, fel bysellfwrdd mawr neu ffôn sy'n siarad, llyfrau print bras neu Braille. Caiff technoleg gynorthwyol ei chwmpasu yn Adran 4 o'r cwrs hwn; gweler Pwnc 2, Hyrwyddo annibyniaeth [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] '.