4.1 Rhoi'r math cywir o gymorth
Dylai pobl sy'n cael gofal gael cynllun gofal a ysgrifennwyd ganddynt (os oes ganddynt alluedd), gyda chymorth gan eu gofalwyr. Bydd y cynllun gofal yn helpu eraill i wybod pa ofal y dylid ei roi, ond hefyd sut i helpu'r person hwnnw mewn ffordd sy'n briodol iddo ef.
Gweithgaredd 6
Transcript: Gweithio mewn ffordd sy'n grymuso – mae'n rhy gynnar
Gweithio mewn ffordd sy'n grymuso – mae'n rhy gynnar
Gwyliwch y fideo hwn ac ystyriwch p'un a oedd Tim yn cael cymorth oedd yn canolbwyntio ar y person.
- Ydych chi'n meddwl bod gofalwr Tim wedi edrych ar ei gynllun gofal er mwyn gweld sut yr hoffai Tim ddechrau ei ddiwrnod?
- Sut y gallai fod wedi'i reoli'n wahanol?
- Sut oedd Tim yn teimlo yn eich barn chi?
- Beth y gallai Tim fod wedi'i wneud yn wahanol?
Gwnewch nodiadau yn y blwch isod.
Sylwadau
Nid oedd gofalwr Tim yn gweithio mewn ffordd oedd yn canolbwyntio ar y person. Nid oedd yn ystyried ei breifatrwydd pan fyddai'n mynd i mewn i'r ystafell heb guro ar y drws neu'n gweld a oedd yn barod i godi.
Pan fyddai Tim yn gofyn am 'bum munud arall' byddai wedi gallu mynd i weld a oedd y person nesaf yn barod i godi a dod yn ôl at Tim wedyn.
Gallai hefyd fod wedi gofyn i Tim beth oedd am ei wneud ynghylch ei frecwast – efallai y gallai fod wedi'i gael yn ei ystafell os oedd am aros yn y gwely.
Hefyd, nid oedd angen iddi estyn ei ddillad iddo. Gallai Tim fod wedi dweud wrthi beth roedd am ei wisgo pan oedd yn barod i wisgo amdano.
Byddai gweithredoedd y gofalwr yn y fideo wedi gwneud i Tim deimlo'n ddiymadferth am fod penderfyniadau bob dydd am ei fywyd ei hun yn cael eu cymryd allan o'i reolaeth. Nid oedd llawer y gallai Tim fod wedi'i wneud ar yr adeg honno am nad oedd y gofalwr yn gwrando arno – roedd yn canolbwyntio ar weithio drwy'r tasgau o gael pobl i godi o'u gwelyau yn barod i gael brecwast. Ond gallai Tim fod wedi trefnu i gael arwydd 'curwch os gwelwch yn dda' ar ei ddrws i ddechrau, a gallai hefyd fod wedi nodi yn ei gynllun gofal ei fod yn hoffi cysgu'n hwyr yn y bore fel y gallai gael ei adael am fwy o amser cyn i'r staff gofal ei godi o'r gwely.
Mae cael rhywfaint o reolaeth dros ein bywydau yn hanfodol i'n lles.