4.2 Dull gwahanol o gymorth
Mae Cyngor Sir Swydd Nottingham wedi datblygu cynllun o'r enw dull sy'n seiliedig ar gryfderau. Gelwir y dull sy'n canolbwyntio ar gryfderau hefyd yn 'ddull sy'n seiliedig ar asedau' yn yr Alban ac mae wedi cael ei hyrwyddo gan y Sefydliad Ymchwil ac Arloesedd mewn Gwasanaethau Cymdeithasol (IRISS) ers sawl blwyddyn. Er enghraifft, gwelwch gyhoeddiad IRISS, Using an assets approach for positive mental health and well-being [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] .
Mae'r math hwn o ddull yn helpu i annog pobl i fod yn fwy annibynnol drwy dynnu cymorth yn ôl yn raddol pan fydd y gofalwr yn dechrau gweld bod gan y person y sgil neu'r cryfder sy'n ofynnol i gyflawni rhai tasgau'n annibynnol. Mae i hyn y fantais o sicrhau bod cymorth yn bodoli o hyd gyhyd ag y bydd ei angen ar y person, a bydd y person sy'n derbyn gofal yn gallu bod yn fwy annibynnol a hunangynhaliol.
Yn y gweithgaredd nesaf, byddwch yn gwylio fideo am Julie, sydd â phroblemau iechyd meddwl. Cafodd Julie help gan Cheryl, o United Response yn Swydd Nottingham, i gyflawni lefel uchel o annibyniaeth. Roedd Julie am gael yr annibyniaeth hon fel y gallai ei merch, Leanne, a oedd wedi bod yn gofalu amdani, symud oddi cartref.
Gweithgaredd 7
Transcript: Y Ddeddf Ofal – Hyrwyddo annibyniaeth
Y Ddeddf Ofal – Hyrwyddo annibyniaeth
Dull sy'n seiliedig ar gryfder
Cymryd dull sy'n seiliedig ar gryfder – gweld yr unigolyn
Mae gan Julie anawsterau iechyd meddwl. Roedd ei merch, Leanne, gofalwr ifanc, am symud allan o'r cartref. Cafodd Julie ei hasesu gan weithiwr cymdeithasol a chafodd gynnig cymorth gan United Response, un o nifer o ddarparwyr cymorth yn Swydd Nottingham. Cyflwynwyd Julie i Cheryl, a gymerodd ddull sy'n seiliedig ar gryfder i weithio gyda hi.
Pan wnaeth Cheryl gyfarfod Julie
roedd ganddi lefel isel o hunanhyder
ni allai wneud ei siopa ei hun
ni allai reoli ei harian
nid oedd yn cael llawer o ymarfer corff
nid oedd yn datblygu ei gwaith celf
roedd yn ynysu ei hun.
Oherwydd y dull sy'n seiliedig ar gryfder, mae Julie bellach yn fwy annibynnol. Mae ganddi
ffrindiau a chymdogion y gall eu ffonio mewn argyfwng
mae'n gwneud ei siopa gyda help Cheryl ac mae'n gweithio tuag at wneud hyn ar ei phen ei hun
mae'n rheoli ei harian ei hun
mae'n mynd i nofio
mae'n rhannu ei gwaith celf gyda phobl eraill ac mae'n gweithio ar gynhyrchu ei llyfr ei hun.
Wrth i chi wylio'r fideo, meddyliwch beth a wnaeth Cheryl er mwyn galluogi Julie i gymryd camau tuag at fod yn annibynnol. Gwnewch nodyn o'ch meddyliau.
Sylwadau
Y peth cyntaf a wnaeth Cheryl oedd meithrin cydberthynas â Julie drwy gael gwybod beth oedd yn bwysig iddi a beth y gallai ei wneud eisoes. Yna, adeiladodd Cheryl ar y sylfeini hyn er mwyn rhoi hyder i Julie y gallai reoli gweithgareddau penodol yn annibynnol. Helpodd y camau cychwynnol hyn Julie i fagu'r hunanhyder a hunan-barch i gymryd camau pellach ac anoddach.
Roedd y ddwy fenyw yn cydnabod bod ffordd hir o'u blaenau ond na ellid rhuthro. Wrth i Cheryl weithio gyda Julie, byddai'n gallu tynnu'r lefel o gymorth yn ôl yn raddol a byddai Julie yn gwneud mwy a mwy drosti ei hun.
Roedd yn amlwg o'r fideo faint roedd hyn wedi gwella lles Julie a lles ei merch, a oedd yn gweithio tuag at ei nod o allu gadael cartref.