5 Ble i ddod o hyd i gymorth
Mae llawer o wasanaethau cymorth ar-lein yn rhoi gwybodaeth ac arweiniad ar ffyrdd gwahanol o reoli straen, fel Mind [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] . Mae Mind hefyd yn darparu gwasanaeth cyfieithu – llinell iaith – sy'n cynnig help mewn ieithoedd heblaw Saesneg.
Mae cymunedau ar-lein fel Big White Wall ac Elafriends yn ddefnyddiol ac yn rhoi cymorth i bobl sy'n ei chael hi'n anodd ymdopi. Mae'r cymunedau ar-lein hyn yn hollol ddienw, sy'n caniatáu i bobl siarad yn agored yn gyfrinachol.
Mae'r wefan hon yn ddefnyddiol ar gyfer gwasanaethau ar-lein yng Nghymru:
http://www.iechydmeddwlcymru.net/ y-sector-gwirfoddol/
Mae gan awdurdodau lleol bellach wasanaeth 'byw'n dda' a gwasanaeth lles – ar-lein ac ar ffurf taflenni a gwybodaeth gysylltiedig, grwpiau cyswllt, gweithdai a chyrsiau. Mae rhagor o wybodaeth ar-lein, er enghraifft ar wefan Lles y GIG, neu drwy eich meddyg, eich llyfrgell leol, Canolfan Cyngor ar Bopeth neu swyddfeydd y cyngor lleol. Bydd y llefydd hyn hefyd yn gallu rhoi gwybodaeth i chi am grwpiau cymunedol lleol eraill a chymorth os byddai'n well gennych gael dull all-lein.
Sefydliad yw Amser i Newid sy'n herio stigma a gwahaniaethu ar sail iechyd meddwl. Mae hefyd yn darparu gwybodaeth am straen a lles yn y gweithle i gyflogwyr a chyflogeion.
Clywsoch am y cymorth a gafodd Norman gan yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr. Mae sefydliadau eraill fel hyn, fel Care UK, sydd hefyd yn cynnig cymorth ac arweiniad.
Gweithgaredd 8
Chwiliwch ar-lein am bum grŵp cymorth lles.
Rhestrwch nhw yma ac ysgrifennwch ddatganiad byr am yr hyn maent yn ei wneud.
Os byddai'n well gennych beidio â mynd ar-lein, ble arall y gallwch gael cymorth?
Ysgrifennwch dri lle y byddech yn mynd i gael cymorth.
Gadael sylw
Mae'n gymharol hawdd chwilio ar-lein am bob math o gymorth – ar gyfer lles cyffredinol ac ar gyfer help gyda chyflyrau penodol. Nid yw mor hawdd dechrau ceisio cymorth heb ddefnyddio'r rhyngrwyd ond byddai eich meddyg yn lle da i ddechrau, ynghyd â'r Ganolfan Cyngor ar Bopeth, swyddfa'r cyngor lleol neu'r llyfrgell gyhoeddus.