1.2 Rolau timau
Mae'r adran hon yn rhoi rhywfaint o gefndir am rolau timau. Wrth i chi weithio drwyddi, meddyliwch am y gwaith rydych yn ei wneud mewn timau a'r gwaith rydych wedi ei wneud gydag eraill, boed hynny fel rhan o gorff llywodraethu neu fel arall.
Ymchwil Belbin (1981) yw'r darn o waith y dyfynnir ohono fwyaf yng nghyd-destun gwaith tîm. Er bod y gwaith hwn wedi'i ddatblygu a'i fireinio dros y blynyddoedd, mae'n dal i fod yn sail i ymchwil a gwaith ysgrifenedig ar waith tîm. Mae Belbin yn nodi naw clwstwr o ymddygiadau, neu rolau, mewn tîm. Mae'n awgrymu bod unigolion yn fwy effeithiol os cânt chwarae'r rolau y mae eu sgiliau'n fwyaf addas iddynt neu y maent yn fwyaf awyddus i'w chwarae, ond gallant fabwysiadu rolau eraill ar wahân i'r rhai a ffefrir ganddynt os oes angen.
Mae yna agweddau cadarnhaol a negyddol ar y naw rôl. Cliciwch ar bob un ohonynt i gael rhagor o fanylion:
Nid yw gweithio mewn tîm bob amser yn hawdd, ond mae iddo nifer o fuddiannau. Mae'n darparu strwythur ac yn ffordd o ddod â phobl sydd â chymysgedd o sgiliau a gwybodaeth ynghyd. Mae hefyd yn annog y broses o gyfnewid syniadau, creadigrwydd, cymhelliant a gwaith craffu, a gall helpu i wella ansawdd, cyflawniad a phrofiad yn yr ysgol. Dylech nawr roi cynnig ar Weithgaredd 3.
Gweithgaredd 3: Myfyrio ar rolau timau
Ar ôl dysgu am yr amrywiaeth o rolau timau sy'n bodoli, treuliwch ychydig funudau yn myfyrio ar eich cyfraniad at eich corff llywodraethu a thimau eraill rydych yn rhan ohonynt. Pa un o'r naw rôl uchod y byddai'n well gennych ei mabwysiadu? A ydych yn ymgymryd â rolau gwahanol yn dibynnu ar y tîm rydych yn gweithio ynddo?
Ar ôl myfyrio ar y cwestiynau, treuliwch ychydig funudau yn nodi eich ymatebion i bob cwestiwn yn y blwch testun isod.
Gallwch lawrlwytho'r nodiadau y byddwch yn eu gwneud drwy ddefnyddio'r blwch ‘lawrlwytho atebion’, a fydd yn ymddangos pan fyddwch yn cadw sylw am y tro cyntaf yn ystod y cwrs hwn.
Discussion
Nid oes yr un ateb cywir i'r gweithgaredd hwn: ei ddiben yw eich helpu i grynhoi eich meddyliau am eich cyfraniadau at dimau, ac yn benodol y corff llywodraethu rydych yn aelod ohono. Efallai bod nifer o'r rolau a amlinellwyd gan Belbin yn berthnasol i chi, neu efallai bod un rôl yn benodol yn sefyll allan. Gall meddwl am brofiadau a chyfraniadau blaenorol lywio eich ymddygiad nawr ac yn y dyfodol. Drwy ddeall eich dewisiadau eich hun, gallwch ddatblygu eich cyfraniadau at waith y corff llywodraethu, ei bwyllgorau a gwaith gyda staff, rhieni, gofalwyr a'r gymuned ehangach. Mae'r gallu i gydweithio ag eraill mewn tîm fel bod y pethau cywir yn cael eu cyflawni yn sgil bwysig.
Fel llywodraethwr, byddwch yn mynychu cyfarfodydd a phwyllgorau ac, o bosibl, yn cymryd rhan mewn gweithgorau bach. Efallai y byddwch hefyd yn ymweld â'r ysgol er mwyn cael tystiolaeth uniongyrchol o ansawdd yr addysgu a'r dysgu, neu ymddygiad y disgyblion. Efallai y byddwch yn cyflwyno gwybodaeth i rieni a gofalwyr, neu'n cymryd rhan mewn arolygiad o'r ysgol ac yna'n llunio cynllun gweithredu mewn ymateb i'r adroddiad arolygu. Caiff pob un o'r tasgau hyn eu cwblhau drwy gydweithio ag eraill.
Yn y rhan hon o'r cwrs rydych wedi dysgu eich bod, drwy ymgymryd â'ch gwaith gwirfoddol fel llywodraethwr, yn ffurfio rhan o dîm o lywodraethwyr. Mae tîm y corff llywodraethu yn fwy effeithiol pan fydd yn gwneud y defnydd gorau posibl o sgiliau, profiadau a doniau ei lywodraethwyr unigol ac yn manteisio ar bob un o'u cryfderau fel tîm. Drwy ddeall eich cryfderau a'ch gwendidau eich hun fel aelod o dîm, gallwch wneud cyfraniad mwy effeithiol.
Fodd bynnag, pan fydd unigolion yn dod ynghyd i weithio fel tîm, mae angen rhyw faith o arweinyddiaeth. Mae angen hwyluso a goruchwylio tîm, ac weithiau mae angen ffordd o reoli safbwyntiau croes. Mae rôl Cadeirydd y Llywodraethwyr [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] yn fuddiol yn hyn o beth. Trafodir arweinyddiaeth ymhellach yn Adran 4.
Mae Adran 2 yn ystyried enghraifft bwysig o waith tîm mewn ysgolion yn fanylach: y cysyniad o weithio mewn 'partneriaeth' â rhieni a gofalwyr. Mae deall pam a sut y mae ysgolion yn gweithio gyda rhieni a gofalwyr yn eich helpu i ddatblygu eich arbenigedd fel llywodraethwr ac yn eich galluogi i fyfyrio ar y nifer o fathau gwahanol o dimau sy'n bodoli yng nghymuned eich ysgol.