4 Gwaith tîm ac arweiniad
Dros y degawdau diwethaf bu pwyslais cynyddol ar arweinyddiaeth ym maes addysg, yn enwedig yn y blynyddoedd cynnar. Bydd eich corff llywodraethu yn cysylltu ag uwch-dîm arwain yr ysgol mewn nifer o ffyrdd ac mae aelodau o'r uwch-dîm arwain yn aml yn rhan o'r corff llywodraethu.
Yn yr adran hon byddwch yn dysgu am y canlynol:
- arweinyddiaeth mewn lleoliad addysgol
- arddulliau arwain gwahanol
- sut y caiff arweinyddiaeth ei dangos
- y modd y mae gwaith tîm ac arweinyddiaeth lwyddiannus yn ategu ei gilydd