1 Cyrff llywodraethu a ‘gwaith tîm'
Mae'r adran hon o'r cwrs yn archwilio'r term 'gwaith tîm' ac mae'n gyfle i chi fyfyrio ar eich profiadau chi eich hun o weithio mewn tîm.
Mae cryn dipyn wedi'i ysgrifennu am dimau a grwpiau: y gwahaniaeth rhyngddynt a pha mor effeithiol y maent yn gweithio. At ddiben y cwrs hwn, defnyddiwn y diffiniad sy'n disgrifio tîm fel grŵp sy'n uno'r aelodau tuag at gyflawni amcanion cyffredin (Bennet, 1994).
Mae gwaith tîm yn digwydd mewn nifer o sefyllfaoedd gwahanol ac mewn rhannau gwahanol o'n bywyd. Efallai ein bod yn gweithio mewn tîm bob dydd, neu fel digwyddiad untro. Mae enghreifftiau o waith tîm yn amrywio o gynllunio gwyliau gyda theulu neu ffrindiau, cynllunio digwyddiad gyda chydweithwyr yn y gwaith, ymateb i argyfwng, cydweithio i bennu cyllideb neu gymryd rhan mewn cyfarfod, i gyflawni newid mewn polisi llywodraeth leol neu genedlaethol.

Nododd Mark Gardner o Gymdeithas Genedlaethol y Llywodraethwyr fod creu corff llywodraethu llwyddiannus, fel unrhyw dîm arall, yn ymwneud â sicrhau cydbwysedd ac amrywiaeth o ran sgiliau a phrofiad. Hefyd, mae angen i'r llywodraethwyr gydweithio fel rhan o dîm (Young-Powell, 2016).