Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gwaith Tîm: Hyfforddiant i Lywodraethwyr (Cymru)
Gwaith Tîm: Hyfforddiant i Lywodraethwyr (Cymru)

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

3 Safbwyntiau gwahanol

Mae'n bosibl y bydd gan rieni, gofalwyr, ymarferwyr a llywodraethwyr safbwyntiau gwahanol am ystyr partneriaeth a'r ffordd y mae gwaith tîm yn cyfrannu at addysg, llesiant, diogelwch a datblygiad plentyn. Mae hyn yn codi materion pwysig i lywodraethwyr wrth weithio gydag ymarferwyr, rhieni a gofalwyr, ac i lywodraethwyr wrth geisio cynnwys rhieni a gofalwyr yn eu gwaith gyda phlant. Mae'r adran hon yn tynnu sylw at bedwar pwynt penodol a all helpu i lywio datblygiad partneriaethau â rhieni a gofalwyr, a gwaith y corff llywodraethu:

  • cydnabod mai unigolion yw rhieni a gofalwyr
  • deall pam y mae rhai rhieni a gofalwyr yn penderfynu peidio â bod yn rhan o ddysgu eu plant
  • gweithio gyda rhieni a gofalwyr 'heriol'
  • cydnabod strwythurau teuluol.