Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Cyflwyniad i arweinyddiaeth i lywodraethwyr (Cymru)
Cyflwyniad i arweinyddiaeth i lywodraethwyr (Cymru)

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

Cyflwyniad

Mae'r cwrs hwn yn gyflwyniad i arweinyddiaeth a rheolaeth addysgol. Mae'n seiliedig ar y ddealltwriaeth bod ymchwilio i ymarferion a dadansoddi sefyllfaoedd go iawn yn gallu arwain at newid a gwelliant. Mae'r cwrs yn ystyried rhai o faterion a chysyniadau allweddol arweinyddiaeth addysgol ac, ymhlith pethau eraill, bydd yn trafod yr hyn y gellid ei ystyried yn arferion da mewn arweinyddiaeth addysgol a sut y gellid deall a datblygu'r gallu i wella. Caiff pwysigrwydd cynllunio a gwerthuso datblygiad dysgu proffesiynol fel rhan o'r broses hon ei ddadansoddi a'i lywio gan ddefnyddio model damcaniaethol y gellir ei ddefnyddio mewn unrhyw ysgol.

Mae'r cwrs hwn yn rhoi'r cyfle i chi ystyried rhai materion allweddol sy'n gallu codi mewn ysgolion. Mewn sawl gweithgaredd, gofynnir i chi fyfyrio ar senarios gwahanol ac ysgrifennu arsylwadau personol yn y blychau testun. Gallwch lawrlwytho'r holl sylwadau y byddwch yn eu gwneud yn ystod y cwrs drwy ddefnyddio'r blwch ‘lawrlwytho atebion’, sy'n ymddangos pan fyddwch yn cadw sylw am y tro cyntaf yn ystod y cwrs.

Mae cwblhau'r blychau testun yn rhan hanfodol o'r cwrs hwn er mwyn dangos eich bod yn cymryd rhan weithredol ynddo – ond gan fod sefyllfaoedd yn amrywio o ysgol i ysgol, bydd yr atebion yn amrywio, a bydd eich sylwadau'n parhau'n bersonol i chi. Cynigir rhai sylwadau cyffredinol ar bob un o'r materion hefyd drwy glicio ar fotwm datgelu.

Mae'n bosibl y bydd rhai o'r gweithgareddau yn gofyn i chi ddewis o nifer o atebion posibl, ond thema sylfaenol y cwrs hwn yw eich bod yn cymryd eich amser ac yn ateb mewn modd myfyriol a gonest, gan ddefnyddio eich gwybodaeth a'ch dysgu personol eich hun.

Drwy ddilyn y cwrs hwn, y gobaith yw y byddwch yn magu hyder yn eich rôl fel llywodraethwr ac yn gallu ymgymryd â rôl fwy gwybodus yn eich ysgol.