Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Ewch â’ch addysgu ar-lein
Ewch â’ch addysgu ar-lein

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

3 Anhysbysrwydd dysgwyr, sianeli cefn a rhyngweithio cymdeithasol

Mewn rhai amgylcheddau addysgu ar-lein, bydd modd priodoli’r holl ryngweithiadau trwy sianeli ‘swyddogol’ yn amlwg i fyfyrwyr unigol. Fel arfer, bydd myfyrwyr yn gallu postio i fforymau o’u cyfrifon ar-lein gyda’r sefydliad yn unig, felly bydd eu henw’n gysylltiedig â phopeth y byddant yn ei gyfrannu. Yn yr un modd, bydd gwybodaeth fewngofnodi ar gyfer digwyddiadau ar-lein cydamserol yn cael ei darparu gan y sefydliad fel arfer, a bydd yn adnabod pob dysgwr yn glir. Fodd bynnag, fe allai fod amgylchiadau lle nad yw gwybodaeth o’r math hwn yn cael ei darparu’n ddiofyn, a gall dysgwyr ddewis creu cyfrifon nad ydynt yn eu henwi. Gall anhysbysrwydd o’r fath fod yn fuddiol iawn i ddysgwyr mwy tawedog a allai fod yn amharod i gyfrannu gan ddefnyddio eu henw rhag ofn y byddant yn rhoi’r ateb anghywir, er enghraifft, ac fe all fod yn alluogol iawn i’r garfan gyfan os yw pynciau sensitif iawn yn cael eu trafod. Fodd bynnag, fe all hefyd wneud i bobl sy’n achosi trafferth neu bersonoliaethau cryfach fod yn fwy eofn, ac felly fe all fod yn anodd i’r athro/athrawes gymedroli gweithgareddau pan fydd y rhyngweithiadau’n ddienw.

Fel y dysgoch yn gynharach yr wythnos hon, mae unrhyw weithgaredd addysgu ar-lein yn gallu arwain at ryngweithiadau rhwng dysgwyr mewn mannau heblaw am y lleoliadau swyddogol ar gyfer dysgu ar-lein. Er bod diffyg rheolaeth dros y dulliau cyfathrebu hyn rhwng dysgwyr yn gallu bod yn achos pryder, yn amlach na pheidio fe allant fod yn eithriadol o ddefnyddiol i’r dysgwyr (Fiester a Green, 2016). Os bydd myfyrwyr mewn cysylltiad â’i gilydd trwy ap negeseua gwib, er enghraifft, yn ystod digwyddiad dysgu ar-lein cydamserol, yn aml fe allant helpu ei gilydd i ddeall y materion dan sylw heb orfod datgan gerbron yr athro/athrawes bod angen cymorth arnynt. Gall hyn helpu’r garfan i ddysgu mwy na phetai’r sianeli swyddogol yn unig yn cael eu defnyddio.

Mae’n bwysig ystyried sut gallwn ni fel addysgwyr annog a strwythuro defnydd effeithiol o sianeli cefn. Un enghraifft o ddefnyddio sianeli cefn yn effeithiol iawn yw defnyddio Twitter a hashnod penodol i gyfosod a thrafod cyflwyniadau yn ystod cynhadledd (boed hynny ar-lein neu wyneb yn wyneb).

Y ddelwedd a ddisgrifir
Ffigur 6 Aderyn Twitter gyda hashnod