Dysgwch fwy am gyrsiau a chymwysterau Gwleidyddiaeth Y Brifysgol Agored.
Carmen Smith, y Farwnes Smith o Lanfaes
Ganwyd Carmen Smith yng Nghaersallog yn 1996, cyn symud i Lanfaes, ar Ynys Môn, yn saith oed. Yn ei harddegau, roedd hi'n ofalwr ifanc i'w thad. Gwasanaethodd Smith fel Dirprwy Lywydd Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr Cymru cyn mynd ymlaen i weithio yn y maes datblygu rhyngwladol, yn Senedd Ewrop, i Blaid Cymru, ac i gwmni ynni adnewyddadwy. Roedd hi hefyd yn ymgeisydd yn etholiad Senedd Ewrop yn 2019. Yn 2024, penodwyd Smith i Dŷ'r Arglwyddi fel y Farwnes Smith o Lanfaes, ac fel aelod ieuengaf y Tŷ.
Pam oeddech chi eisiau bod yn aelod o Dŷ'r Arglwyddi?
Nid wyf yn cefnogi uwch-siambr anetholedig. Ond tra bod Tŷ'r Arglwyddi yn bodoli ac yn parhau i wneud deddfau sy'n effeithio ar bobl yng Nghymru, rwy'n credu bod yn rhaid i ni fod yn yr ystafell a dweud ein dweud.
O ran democratiaeth a sut yr ydym yn cael ein llywodraethu, dylem rwygo'r llyfr rheolau a dylunio rhywbeth sy’n llawer mwy democrataidd, agored a modern.
Rwy'n cefnogi annibyniaeth i Gymru ac yn gobeithio bod yn rhan o'r daith o ddatblygu democratiaeth fodern sy'n gweithio i bobl Cymru.
Beth ydych chi'n gobeithio ei gyflawni fel aelod o Dŷ'r Arglwyddi?
Byddaf yn gweithio ochr yn ochr ag Aelodau Seneddol fy mhlaid i ymladd dros fargen deg i Gymru a dwyn llywodraethau presennol a dyfodol y DU i gyfrif.
Byddaf yn ddiedifar yn eiriol am ddyfodol tecach, mwy cynaliadwy, ac, yn y pen draw, annibynnol i Gymru.
Fel dynes ifanc, byddaf yn gweithio i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o fenywod i gymryd rhan weithredol yn ein cymunedau a'n cenedl.
Ewch â ni drwy linell amser o'ch taith i Dŷ'r Arglwyddi.
31 Hydref 2023
Yn dilyn cyhoeddiad yr Arglwydd Wigley, unig aelod Plaid Cymru o Dŷ'r Arglwyddi, ei fod yn dymuno ymddeol, e-bostiodd Prif Weithredwr Plaid Cymru holl aelodau'r Gofrestr Genedlaethol o Ymgeiswyr i agor enwebiadau'n swyddogol ar gyfer enwebai neu enwebeion nesaf y blaid i Dŷ'r Arglwyddi.
Byddai dau hystings yn cael eu cynnal, gyda phleidlais i ddilyn ymhlith aelodau'r blaid a oedd yn bresennol yn yr hystings.
Byddai ymgeiswyr yn cael eu hethol ar sail system ble byddai’r safle cyntaf yn cael ei ddal gan fenyw, yr ail safle yn agored, ac yna bob yn ail yn yr un modd.
Byddai'r system bleidleisio o ethol un enillydd drwy bleidleisio ffafriol yn cael ei defnyddio i bennu safle ar y rhestr. Byddai'r ymgeisydd ar frig y rhestr yn cael ei enwebu gan arweinydd y blaid i Dŷ'r Arglwyddi. Byddai'r enwau eraill yn cael eu cynnig yn eu tro pe bai sedd wag arall yn codi o fewn y pum mlynedd ddilynol. Bydd yr enwebeion llwyddiannus yn ailgyflwyno eu hunain ar gyfer detholiad mewnol bum mlynedd ar ôl y broses ddethol gychwynnol.
16 a 17 Tachwedd 2023
Cyflwynais fy enwebiad i'r Swyddog Dynodedig ar 16 Tachwedd a daeth y cyfnod enwebu i ben ar 17 Tachwedd.
*Ffeithiau yn gywir ar adeg cyhoeddi - Mai 2024.
30 Tachwedd a 2 Rhagfyr 2023
Cynhaliwyd dau hystings - un rhithiol drwy Zoom ac un wyneb yn wyneb ym Mhrifysgol Aberystwyth. Yn y ddau hystings, cafodd pob ymgeisydd gyfle i draddodi araith. Yna gofynnwyd ystod eang o gwestiynau gan aelodau gyda phob un o'r ymgeiswyr yn cael dau funud i ateb pob cwestiwn. Ar ôl yr hystings, gofynnwyd i'r aelodau a oedd yn bresennol fwrw eu pleidleisiau.
Cafodd y pleidleisiau eu cyfri wedi i'r bleidlais olaf gael ei bwrw yn yr hystings yn Aberystwyth. Yna, cafodd yr ymgeiswyr wybod y canlyniad cyffredinol, sef fy mod i yn y safle cyntaf ar y rhestr.
6 Rhagfyr 2023
Anfonodd Arweinydd Plaid Cymru lythyr at Swyddfa'r Cabinet yn cadarnhau mai fi oedd enwebai Plaid Cymru. Yna anfonwyd yr enwebiad at Gomisiwn Penodiadau Tŷ'r Arglwyddi (HOLAC) i'w fetio.
Rôl HOLAC yw cynnal y gwiriadau angenrheidiol ar bob enwebai. Mae'r rhain yn cynnwys gwirio gydag adrannau ac asiantaethau perthnasol y llywodraeth a sefydliadau eraill, gan gynnwys y Comisiwn Etholiadol, yn ogystal â chynnal ymchwiliad ar y cyfryngau. Ar gyfer penodiadau gwleidyddol i Dŷ’r Arglwyddi, mae'r Comisiwn yn gwirio priodoldeb enwebeion.
9 Chwefror 2024
Cefais wybod gan Ysgrifennydd HOLAC fod y broses fetio wedi'i chwblhau a’u bod wedi rhoi eu cyngor i'r Prif Weinidog. Cynigiodd y Comisiwn eu cefnogaeth i'm henwebiad.
Cytunodd y Prif Weinidog i'r enwebiad (ynghyd ag enwebeion eraill o bleidiau gwleidyddol eraill) ac yna hysbysodd 10 Stryd Downing Uwch Frenin yr Arfau, Clerc y Seneddau, a Swyddfa'r Wialen Ddu o'r rhestr o benodiadau gwleidyddol newydd i Dŷ’r Arglwyddi.
Cyhoeddwyd y rhestr o benodiadau gwleidyddol i Dŷ’r Arglwyddi gan swyddfa'r Prif Weinidog, yn cadarnhau fy enwebiad ochr yn ochr â 12 o enwebeion eraill.
16 Chwefror 2024
Cwrddais â Brenin Arfau’r Gardas yng Ngholeg yr Arfbeisiau yn Llundain. Cyn i unrhyw un ddod yn aelod o Dŷ'r Arglwyddi, mae'n rhaid cytuno ar deitl a rhaid paratoi dogfennau cyfreithiol o'r enw Breinlythyrau a Gwrit Gwysio.
Gofynnais i gael fy enwi ar ôl pentref bach Llanfaes, ar Ynys Môn, lle cefais fy magu ar stad tai cyngor. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn i gadw fy nhraed yn gadarn ar y ddaear yn y rôl yr ydwyf i ar fin ei chyflawni.Mae dewis Llanfaes fel fy 'nynodiad tiriogaethol' yn bwysig oherwydd mae’n fy atgoffa o ble rwy’n dod. Yn fy rôl newydd rwyf am daflu goleuni ar ardaloedd difreintiedig — llefydd yn union fel Llanfaes.
6 Mawrth 2024
Cyn cymryd fy sedd, treuliais ddiwrnod yn ymweld â Thŷ'r Arglwyddi i fynychu sawl sesiwn friffio ymsefydlu.
Cyfarfûm â’r Wialen Ddu, i gadarnhau'r trefniadau ar gyfer fy seremoni gyflwyno ar 21 Mawrth, gan gynnwys cadarnhau pwy fyddai'n fy nghyflwyno, gan fod angen i ddau aelod presennol o'r Tŷ gymryd rhan yn ffurfiol yn y seremoni. Dewisais yr Arglwydd Wigley a'r Farwnes Bennett o Manor Castle. Mae'r Arglwydd Wigley yn gyd-aelod o Blaid Cymru, ac mae'r Farwnes Bennett yn aelod o'r Blaid Werdd.
Gofynnais hefyd am glogyn ffwr ffug yn lle ffwr go iawn, i gefnogi lles anifeiliaid. Yn ogystal, fe gadarnheais yr hoffwn wneud y datganiad yn Gymraeg.Cyfarfûm â Chlerc y Seneddau, fel cyflwyniad i'r arferion a'r gweithdrefnau yn Siambr Tŷ'r Arglwyddi a'r Uwch-Bwyllgor. Cefais gopi o'r Cydymaith i'r Rheolau Sefydlog, sef y testun awdurdodol ar weithdrefnau Tŷ'r Arglwyddi. Mae hyn yn cynnwys esboniad o'r rolau yn y Senedd megis yr Arglwydd Lefarydd, y patrwm gwaith cyffredinol pryd mae'r Siambr yn eistedd, pethau y dylech ac na ddylech eu gwneud o ran ymddygiad yn y Siambr, rheolau trafod, a'r drefn bleidleisio.
Cyfarfûm hefyd â'r Cofrestrydd Buddiannau i fynd drwy'r rheolau mewn perthynas â datgan a chofrestru unrhyw fuddiannau ariannol a buddiannau perthnasol eraill.
Ac yn union fel sy’n digwydd gyda'r rhan fwyaf o swyddi, cwrddais â'r tîm TG i'm cyflwyno i'r offer digidol sydd ar gael i mi.
13 Mawrth 2024
Derbyniais lythyr yn fy hysbysu bod yr agweddau ffurfiol rhagarweiniol yn ymwneud â fy mhenodiad i Dŷ’r Arglwyddi bellach wedi'u cwblhau. Roedd rhybudd o fy mhenodiad wedi cael ei anfon i'r gazettes yn Llundain a Chaeredin i'w gyhoeddi cyn gynted â phosibl.
18 Mawrth 2024
Cyhoeddwyd yn The London Gazette:
‘THE KING has been pleased by Letters Patent under the Great Seal of the Realm dated 13 March 2024 to confer the dignity of a Barony of the United Kingdom for life upon the following:
In the forenoon
Carmen Ria Smith, by the name, style and title of BARONESS SMITH OF LLANFAES, from Llanfaes in the County of Ynys Môn.'
21 Mawrth 2024
Gyda fy nheulu a'm ffrindiau yn bresennol ac yn eistedd yn yr oriel gyhoeddus uwchben y Siambr, cefais fy nghyflwyno'n ffurfiol i Dŷ'r Arglwyddi drwy'r seremoni gyflwyno draddodiadol.
Mae'r seremoni'n cynnwys un o'r clercod yn darllen fy Mreinlythyrau, fi yn gwneud y cadarnhad sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith, ac yn llofnodi'r côd ymddygiad.
25 Mawrth 2024
Dechreuodd fy niwrnod eistedd llawn cyntaf fel aelod o Dŷ'r Arglwyddi gyda chwestiynau llafar. Dilynwyd hyn drwy fynychu cam pwyllgor (diwrnod 8) y Bil Dioddefwyr a Charcharorion. Mynychais hefyd Sesiwn Fawr ar y Bil Diogelu Data a Gwybodaeth Ddigidol.
25 Ebrill 2024
Rhoddais fy araith gyntaf yn ystod dadl ar bwnc tai fforddiadwy. Y cynigiad a gyflwynwyd ar gyfer y ddadl oedd:
Is-iarll Chandos i gynnig bod y Tŷ hwn yn nodi'r cyflenwad o dai gwirioneddol fforddiadwy, effaith hyn ar yr economi, a'r camau sydd eu hangen i gynyddu'r cyflenwad, yn enwedig i weithwyr allweddol a'r rhai ar incwm is.
Yn fy araith, siaradais am sut mae'r argyfwng tai yn effeithio ar bobl ifanc yn benodol, a thynnu sylw at y nifer fawr o bobl yng Nghymru, gan gynnwys plant, sydd mewn llety dros dro neu lety argyfwng. Siaradais hefyd am y croestoriad rhwng polisi tai (sydd wedi'i ddatganoli i Gymru) a pholisi nawdd cymdeithasol (sy'n parhau i fod yn gyfrifoldeb Llywodraeth y DU). Talais deyrnged hefyd i arglwydd arall fy mhlaid, yr Arglwydd Wigley, gan nodi rhai o'r egwyddorion a fydd yn fy arwain yn fy ngwaith fel aelod o Dŷ'r Arglwyddi.
Roedd fy araith tua deng munud o hyd, a chefais fy llongyfarch ar ei hôl gan aelodau eraill yn y Siambr, gan gynnwys yr Arglwydd Wigley a'r Farwnes Bennett o Manor Castle sy’n cynrychioli’r Blaid Werdd. Cefais fy llongyfarch hefyd gan yr Is-Ysgrifennydd Gwladol Seneddol dros Dai, yn Gymraeg, a ymatebodd ar ran Llywodraeth y DU i rai o'r pryderon a godais am yr argyfwng tai.
Ar ôl gwneud fy araith gyntaf, byddaf yn gallu rhoi fy enw i lawr i siarad mewn dadleuon eraill.
Mae bron i chwe mis wedi mynd heibio ers i'r broses hon ddechrau, ac erbyn hyn mae'r holl ffurfioldebau allan o'r ffordd, ac mae'n bryd bwrw ymlaen â'r gwaith wrth law.
Geirfa
Mwy fel hyn ar OpenLearn
Mae’r adnodd hwn yn rhan o gasgliad Dinasyddiaeth Weithgar yng Nghymru.
Gallwch ddod o hyd i fwy o adnoddau fel hyn ar hafan y casgliad.
Graddau y Cwrs
Graddiwch yr erthygl hon
Adolygwch yr erthygl hon
Mewngofnodi i OpenLearn i adael adolygiadau ac ymuno â'r sgwrs.
Adolygiadau ar gyfer yr Erthygl hon