Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Newyddion ffug yng Nghymru

Diweddarwyd Dydd Llun, 24 Ionawr 2022
Mae’r ffordd mae gwybodaeth yn cael ei hadrodd, ei hegluro a’i rhannu yng Nghymru, yn enwedig wrth i’r Senedd ennill rhagor o bŵer, yn tynnu sylw at faterion pwysig ynghylch yr effeithiau all ‘newyddion ffug’ eu cael ar gymdeithas ddemocrataidd.

Mae'r fideo hwn ar gael yn Saesneg, gallwch ddarllen trawsgrifiad yn Gymraeg (Dogfen PDF155.4 KB) neu Saesneg.

 

Y mathau gwahanol o ‘newyddion ffug’ a’r byd ‘ôl-wirionedd’

"TRUTH Social… encourages an open, free, and honest global conversation without discriminating against political ideology". 

Dyma ddatganiad cenhadaeth ar gyfer llwyfan newydd ar y cyfryngau cymdeithasol a gyhoeddwyd gan Donald Trump fis Hydref 2021. Mae ei enw wedi codi sawl gwrychyn, o ystyried hanes ei sylfaenydd o ran dweud y ‘gwir’ - neu beth mae’r rhan fwyaf o bobl yn ei ddeall fel ‘y gwirionedd’. Er hyn, mae’r cysyniad wedi bod yn destun sawl dadl yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac mae wedi arwain at don fyd-eang o fewnsyllu.

Mae’r dadleuon ynghylch y gwir a chelwydd mewn bywyd cyhoeddus oll yn crynhoi yn yr argyfwng dros ‘newyddion ffug’ - term a ddaeth i sylw’r cyhoedd am y tro cyntaf oddeutu 2016. Gwaetha’r modd, mae’r syniad fod gwleidyddion a ffigyrau cyhoeddus eraill yn chwarae â thân o ran y gwir yn heb chwedl. Yr hyn sy’n newydd yw’r cyfryngau sydd bellach yn bodoli o’n cwmpas, yn enwedig dylanwad y rhyngrwyd a chyfryngau cyfathrebu digidol eraill. Mae’r cyfuniad o’r dechnoleg newydd hon - a’i dylanwad ar gymdeithas - yn ogystal â’r duedd tragwyddol sydd gan yr unigolion mewn grym i addasu’r gwir er eu budd personol, wedi creu’r argyfwng rydym yn ei wynebu heddiw.

Y mathau niferus o newyddion ffug

Mae diffinio ‘newyddion ffug’ yn heriol. Mae’r term ei hun yn ei gwneud hi’n anodd. I’r llygad noeth, mae’n ymddangos yn eithaf syml. Mae’n cyfeirio at wybodaeth ffug sy’n honni ei fod yn newyddion. Ond gan fod sawl math gwahanol o ‘ffug’ yn bodoli, a gan fod y term ei hun wedi cael ei ddefnyddio fel pastwn rhethregol gan ambell wleidydd, mae bellach yn golygu rhywbeth gwahanol i bawb.

Oherwydd yr amhendantrwydd hwn, mae’n well gan lawer o bobl ei osgoi. Ymhlith y dewisiadau amgen mae ‘twyllwybodaeth’ a ‘chamwybodaeth’. Mae’r term cyntaf yn disgrifio gwybodaeth sy’n cael ei rhannu gan unigolyn sy’n gwybod ei bod hi’n anghywir. Mae’n ffordd dwyllodrus o adrodd sy’n cael ei defnyddio i gamarwain pobl yn fwriadol. 

Mae’r rhan fwyaf o’r sylw a roddwyd yn y cyfryngau ynghylch ‘newyddion ffug’ wedi canolbwyntio ar y math yma o beth - gydag enghreifftiau sy’n faleisus yn fwriadol, ac sy’n ceisio newid barn wleidyddol drwy ddefnyddio technegau sy’n drewi o bropaganda. Mae hyn yn rhannol oherwydd ei fod yn creu cynnwrf, ac am iddo fod yn rhan annatod o ddigwyddiad sydd wedi denu sylw byd-eang gan y cyfryngau - megis etholiadau arlywyddol yr Unol Daleithiau a refferendwm Brexit.

Mae camwybodaeth yn cyfeirio at wybodaeth sy’n cael ei rhannu heb unrhyw fwriad penodol i dwyllo.

Gall camwybodaeth hefyd fod yn broblem enfawr. Mae camwybodaeth yn cyfeirio at wybodaeth sy’n cael ei rhannu heb unrhyw fwriad penodol i dwyllo. Yn yr achosion hyn, mae’n fwy o fater o letchwithdod, damwain neu ddiffyg gofal. Mae’n cyfeirio at ddatganiadau anghywir sy’n cael eu gwneud gan unigolion ddylai wybod yn well, sy’n cael eu hadrodd, eu dosbarthu ac sy’n dod yn rhan o ragdybiaeth gyffredin ynghylch pwnc.  

Newyddion ffug a gwleidyddiaeth Cymru

Yn wir, nid yw’r cyd-destun gwleidyddol yng Nghymru heddiw wedi cael cymaint o sylw gan ddadansoddwyr a’r cyfryngau â gwleidyddiaeth dan adain Trump yn yr Unol Daleithiau. Ond mae’r ffordd mae gwybodaeth yn cael ei hadrodd, ei hegluro a’i rhannu yng Nghymru, yn enwedig wrth i’r Senedd ennill rhagor o bŵer, yn tynnu sylw at faterion pwysig ynghylch yr effeithiau all ‘newyddion ffug’ ei gael ar gymdeithas ddemocrataidd. 

Dyma bwnc y ffilm, sy’n edrych ar sut mae democratiaeth yn dioddef yng Nghymru oherwydd twyllwybodaeth a chamwybodaeth. Edrychir yn fanwl ar y berthynas rhwng ‘newyddion ffug’ a chlwstwr o ffactorau gwleidyddol a chymdeithasol pwysig, yn cynnwys datganoli, cyflwr amgylchedd y cyfryngau, ac effaith gwleidyddiaeth ar yr undeb yn gyffredinol. 

Boed yn dwyllwybodaeth neu gamwybodaeth, y rheswm pam mae ‘newyddion ffug’ wedi dod yn fater mor bwysig o fewn cymdeithas fodern yw am ei fod yn gallu achosi goblygiadau difrifol, a gwelir hyn yn y ffilm. Mae democratiaeth ryddfrydol yn seiliedig ar y syniad fod yr etholwyr yn gallu gwneud penderfyniadau gwybodus a rhesymol ar sail y wybodaeth sydd ar gael iddyn nhw. Os yw’r wybodaeth hon rhywsut yn llygredig neu gamarweiniol, mae’n bygwth delfryd democratiaeth ei hun. A dyma pam, fel mae cyfranwyr y ffilm yn ei egluro, mae deall y peryglon posibl, a bod yn wyliadwrus ohonynt, yn holl bwysig er mwyn mynd i’r afael â ‘newyddion ffug’.

Porwch ragor o adnoddau ynghylch y pwnc hwn

Rhowch gynnig ar gwrs am ddim​

 


AC Collection

Mae’r adnodd hwn yn rhan o gasgliad Dinasyddiaeth Weithgar yng Nghymru
Gallwch ddod o hyd i fwy o adnoddau fel hyn ar hafan y casgliad.

 

 

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Awdur

Sgorau a Sylwadau

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gwybodaeth hawlfraint

Hepgor Graddau y Cwrs

Am ragor o wybodaeth, edrychwch ar ein cwestiynau cyffredin a all roi'r cymorth sydd ei angen arnoch chi.

Oes gennych chi gwestiwn?