Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Sut mae penodi Prif Weinidog newydd i Gymru

Diweddarwyd Dydd Mawrth, 12 Mawrth 2024

Trosolwg o’r hyn sy’n digwydd pan ddaw’n amser penodi Prif Weinidog newydd Cymru, sy’n arwain Llywodraeth Cymru.

Dysgwch fwy am gyrsiau a chymwysterau Gwleidyddiaeth Y Brifysgol Agored.

Yn dilyn cyhoeddiad Mark Drakeford ei fod yn bwriadu ymddiswyddo fel arweinydd Plaid Lafur Cymru a Phrif Weinidog Cymru, cynhadliodd Llafur wedi bod yn cynnal etholiad arweinyddiaeth yn gynnar yn 2024 i ddod o hyd i’w olynydd.

Dydd Sadwrn 16 Mawrth 2024, cyhoeddwyd canlyniad yr etholiad hwnnw. Daeth yr ymgeisydd llwyddiannus, Vaughan Gething, yn Arweinydd Llafur Cymru ar unwaith.

Tra bod Llafur Cymru mewn llywodraeth, mae ef, wrth gwrs, nid yn unig yn arweinydd ar ei blaid, ond disgwylir iddo ddod yn Brif Weinidog nesaf Cymru hefyd.



Cyn y gall ef ymgymryd â’r swydd honno, fodd bynnag, mae proses i fynd drwyddi.

Ddydd Llun 18 Mawrth, arweiniodd y Prif Weinidog Mark Drakeford ei gyfarfod olaf o Gabinet Llywodraeth Cymru a bu iddo ateb cwestiynau gan Aelodau o’r Senedd yn ei sesiwn olaf o Gwestiynau i’r Prif Weinidog ddydd Mawrth 19 Mawrth. Yn nes ymlaen yr un diwrnod, anfonir ei ymddiswyddiad ffurfiol at y Brenin, a derbynia’r Brenin hwnnw.

Yn dilyn ei ymddiswyddiad, bydd gan y Senedd 28 diwrnod i enwebu ei olynydd, er yn ymarferol bydd hyn yn digwydd ddydd Mercher 20 Mawrth.

Unwaith y bydd y Senedd wedi cael gwybod [i] am ymddiswyddiad y Prif Weinidog, bydd y Llywydd, sy’n llywyddu dros drafodion y Senedd ac sy’n cyfateb i Lefarydd Tŷ’r Cyffredin, yn gwahodd enwebiadau ar gyfer swydd Prif Weinidog Cymru.

Mae hyn yn wahanol i sut mae pethau'n gweithio yn San Steffan. Yno, nid oes angen enwebu Prif Weinidog y DU. Maent yn cael eu penodi gan y Brenin dan yr Uchelfraint Frenhinol ar y sail eu bod yn arwain y blaid neu'r grŵp a all ennyn hyder Tŷ'r Cyffredin.




Yng Nghymru, mewn egwyddor, gallai unrhyw Aelod o’r Senedd gael ei enwebu i fod yn Brif Weinidog [ii]. Yn ymarferol, fodd bynnag, oherwydd bod yn rhaid i enwebai'r Senedd gael mwyafrif syml o gefnogaeth, hwn fyddai fel arfer (ac mae bob amser wedi bod) arweinydd y grŵp gwleidyddol mwyaf yn y Senedd.

Felly, pan fydd y Llywydd yn gwahodd enwebiadau, bydd Vaughan Gething yn cael ei roi gerbron gan un o'i gyd-aelodau. Os mai ei enw ef yw'r unig enw a gynigir, bydd yn dod yn enwebai'r Senedd yn awtomatig ar gyfer swydd y Prif Weinidog.

Fodd bynnag, mae'n bosibl y bydd enwau eraill yn cael eu rhoi gerbron. Er enghraifft, gallai un neu fwy o’r pleidiau eraill yn y Senedd gyflwyno enwau eu harweinwyr hwythau. Mae gwneud hyn yn symbolaidd i raddau helaeth, efallai fel neges i Lafur Cymru neu i geisio ennill consesiynau polisi gan Lywodraeth Cymru. Mae wedi digwydd ychydig o weithiau, ond nid bob tro.

Ond weithiau, gall symbolaeth ddod yn agos at ddigwydd mewn gwirionedd . Yn dilyn etholiad 2016, pan enillodd Llafur 29 o seddi, enwebodd Plaid Cymru eu harweinydd Leanne Wood ar gyfer swydd Prif Weinidog Cymru.

Pleidleisiodd y 29 aelod o grwpiau Plaid Cymru, y Ceidwadwyr Cymreig, a UKIP dros Wood, gyda Carwyn Jones hefyd yn derbyn 29 pleidlais gan Lafur a'r Democrat Rhyddfrydol Kirsty Williams. Parhaodd y bleidlais gyfartal am wythnos cyn i Lafur a Phlaid Cymru gytuno y caiff Llafur ffurfio llywodraeth leiafrifol.

Pe bai senario o’r fath yn codi eto, byddai’r broses yr un fath ag yn 2016. Yn syml, byddai’n rhaid i’r Senedd bleidleisio nes bod un enw wedi sicrhau mwyafrif syml o gefnogaeth. Efallai y bydd angen iddynt fynd trwy sawl rownd o bleidleisio hyd nes y cyflawnir hyn.

Os na ellir gwneud enwebiad o fewn 28 diwrnod, bydd etholiad newydd i'r Senedd yn dilyn, felly yn gyffredinol mae'n syniad da gwneud enwebiad.

Gan dybio na fydd hynny’n y tro hwn, unwaith y bydd gan un person fwyafrif syml o gefnogaeth neu os mai Vaughan Gething yw’r unig ymgeisydd, daw’r person hwnnw yn enwebai’r Senedd ar gyfer swydd y Prif Weinidog, a bydd yn annerch Aelodau’r Senedd am y tro cyntaf fel y darpar-Brif Weinidog.

Yna, bydd y Llywydd yn ysgrifennu at y Brenin i’w hysbysu o enw enwebai’r Senedd [iii]. Yn fuan wedyn, bydd y Brenin yn penodi’r Prif Weinidog newydd yn ffurfiol drwy ddogfen a elwir yn Warant Frenhinol. Bydd y Prif Weinidog yn dod yn Geidwad y Sêl Gymreig ar yr un pryd [iv].

Unwaith bo’r Llywydd wedi hysbysu Llywodraeth Cymru o gymeradwyaeth y Brenin, bydd y Prif Weinidog newydd yn cymryd rhan mewn seremoni syml ym mhencadlys Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays, lle bydd yn cymryd y Llw Swyddogol neu’n gwneud y Cadarnhad cyfatebol gerbron barnwr  [v].

Yna mae'r gwaith o lywodraethu yn dechrau. Bydd y Prif Weinidog yn enwi Gweinidogion ar gyfer cymeradwyaeth y Brenin, a bydd Llywodraeth newydd Cymru yn dechrau gweithio ar Raglen Lywodraethu newydd.

Yn ystod y dyddiau a'r wythnosau dilynol, bydd y Prif Weinidog hefyd yn cael ei dyngu’n aelod o'r Cyfrin Gyngor

Mae disgwyl y bydd y Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yn dod i ben erbyn diwedd 2024, felly mewn nifer o ffyrdd gallwn feddwl am y foment hon fel cychwyn y siwrne hir at etholiad nesaf y Senedd fis Mai 2026.


Mwy fel hyn ar OpenLearn

AC Collection

Mae’r adnodd hwn yn rhan o gasgliad Dinasyddiaeth Weithgar yng Nghymru
Gallwch ddod o hyd i fwy o adnoddau fel hyn ar hafan y casgliad.

 

 

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

English

Awdur

Sgorau a Sylwadau

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gwybodaeth hawlfraint

Hepgor Graddau y Cwrs

Am ragor o wybodaeth, edrychwch ar ein cwestiynau cyffredin a all roi'r cymorth sydd ei angen arnoch chi.

Oes gennych chi gwestiwn?