Mae’r Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA) yn talu’r costau a threuliau ychwanegol sy’n ymwneud ag astudio sydd gennych o bosib fel person anabl. Nid oes angen i chi ei dalu’n ôl ac nid yw’n effeithio ar unrhyw fudd-daliadau a gewch.
Gallwch wneud cais am DSA os ydych chi’n byw yn y DU ac os oes gennych anabledd sy’n effeithio ar eich gallu i astudio, fel:
- anhawster dysgu penodol, er enghraifft dyslecsia neu ADHD
- cyflyrau iechyd meddwl fel gorbryder neu iselder
- anabledd corfforol, er enghraifft, os oes angen ichi ddefnyddio baglau, cadair olwyn neu fysellfwrdd arbennig
- anabledd synhwyraidd, gan gynnwys nam ar y golwg, B/byddar neu ar y clyw
- cyflwr iechyd hirdymor, er enghraifft, canser, clefyd cronig y galon neu HIV.
Nid yw DSA ar gael i ddysgwyr prentisiaeth, ond efallai y byddwch yn gymwys ar gyfer Mynediad i Waith.
Mae DSA yn helpu gyda chostau offer arbenigol, cynorthwywyr anfeddygol, costau teithio ychwanegol sy’n gysylltiedig ag anabledd a chostau astudio eraill sy’n gysylltiedig ag anabledd. Nid yw’r DSA yn talu am unrhyw gostau cysylltiedig ag anabledd a fyddai gennych fel arfer, ar wahân i astudio, fel cymorth gofal personol. Nid yw ychwaith yn talu costau y byddai pob myfyriwr yn eu cael wrth astudio. Yng Nghymru, mae DSA yn cael ei ddarparu gan Cyllid Myfyrwyr Cymru a dyma pwy y bydd angen i chi gysylltu â nhw i gwblhau eich cais.
Darparwyd yr adnodd hwn gan Llywodraeth Cymru ac mae'n rhan o'r hwb Barod ar gyfer Prifysgol.
Gallwch ddod o hyd i fwy o adnoddau fel hyn ar hafan yr hwb.
Graddau y Cwrs
Graddiwch yr fideo hon
Adolygwch yr fideo hon
Mewngofnodi i OpenLearn i adael adolygiadau ac ymuno â'r sgwrs.
Adolygiadau ar gyfer yr Fideo hon