Cyngor ar gyfer y broses ymgeisio
A ydych chi’n pendroni sut allwch chi gymryd rhan a chynnig cefnogaeth yn ystod y broses ymgeisio? Yn y fideo hwn, mae Alexandra yn cynnig cyngor ymarferol mewn perthynas â sut allwch chi gynorthwyo eich person ifanc yn ystod o broses o wneud penderfyniad, o fynychu dyddiau agored i geisiadau UCAS.
Cyngor ar gyfer cefnogi’r ymgeisydd
Gall gadael cartref a dechrau yn y brifysgol fod yn gam enfawr a’n newid byd. Mae Alexandra yn cynnig cyngor ynghylch sut i annog myfyrwyr newydd i integreiddio yng nghymuned y brifysgol, o ymuno â grwpiau cymorth ar gyfryngau cymdeithasol, i fanteisio ar gymorth ychwanegol a dewis neuadd breswyl addas.
Cyngor ynghylch perthyn a chymuned
Un o bryderon mwyaf rhieni a gwarcheidwaid yw p’un a fydd eu person ifanc yn teimlo ymdeimlad o berthyn ar ôl symud i’r brifysgol. Yn y fideo hwn, mae Alexandra yn cynnig ffyrdd ymarferol o fynd i’r afael â'r sefyllfa er mwyn teimlo’n rhan o’r gymuned cyn cyrraedd ac wrth ymgartrefu.
Darparwyd yr adnodd hwn gan Brifysgol De Cymru ac mae'n rhan o'r hwb Barod ar gyfer Prifysgol.
Gallwch ddod o hyd i fwy o adnoddau fel hyn ar hafan yr hwb.
Graddau y Cwrs
Graddiwch yr fideo hon
Adolygwch yr fideo hon
Mewngofnodi i OpenLearn i adael adolygiadau ac ymuno â'r sgwrs.
Adolygiadau ar gyfer yr Fideo hon