
Felly, rydych yn mynd i'r brifysgol! Mae'n gyfle cyffrous, ond mae'n siŵr bod gennych gwestiynau am beth i'w ddisgwyl.
Dyna pam rydym wedi defnyddio cynnwys oddi wrth brifysgolion yng Nghymru, felly y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw clicio i gael manylion y cymorth a'r wybodaeth sydd eu hangen arnoch i'ch helpu i wneud eich amser mewn addysg uwch yn fuddiol, yn hwyl ac yn ddiogel.
Barod ar gyfer Prifysgol yw eich hwb sy'n hawdd ei ddefnyddio, p'un a ydych ar fin symud ymlaen i addysg lefel prifysgol, neu'n cefnogi rhywun sy'n gwneud hynny - efallai fel rhiant, athro, gofalwr neu gynghorydd.
Gallwch chwilio yn ôl pwnc – fel sgiliau astudio, llesiant ac iechyd meddwl, neu fywyd myfyrwyr – fel y gallwch fod yn siŵr o fynd yn syth i'r adnoddau sydd eu hangen arnoch.
Mae'n amherthnasol i ba brifysgol rydych chi'n mynd, neu hyd yn oed os gwnaethoch chi benderfynu eto. Gallwch ddefnyddio'r holl adnoddau ar ein hwb i ddarganfod mwy am fywyd prifysgol. Ewch ar daith o gwmpas i archwilio'r holl gefnogaeth wahanol sydd ar gael.
Crëwyd Barod ar gyfer Prifysgol gyda chefnogaeth Lywodraeth Cymru, yn cynnwys cyfraniadau gan brifysgolion yng Nghymru.
Mae'r adnodd hwn yn rhan o'r hwb Barod ar gyfer Prifysgol.
Gallwch ddod o hyd i fwy o adnoddau fel hyn ar hafan yr hwb.
Graddau y Cwrs
Graddiwch yr erthygl hon
Adolygwch yr erthygl hon
Mewngofnodi i OpenLearn i adael adolygiadau ac ymuno â'r sgwrs.
Adolygiadau ar gyfer yr Erthygl hon