Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys
Cwrs am ddim

Addysg gynhwysol: deall yr hyn a olygwn (Cymru)

Datganiad cyfranogiad am ddim wrth i chi gwblhau
Addysg gynhwysol: deall yr hyn a olygwn (Cymru)
Addysg gynhwysol: deall yr hyn a olygwn (Cymru)

Mae'r cwrs hwn yn rhoi cyflwyniad byr i faes cynhwysiant addysgol. Gallwch hefyd weld y cyrsiau eraill yn y casgliad hwn Cyflwyniad i arweinyddiaeth i lywodraethwyr a Gwaith tîm: cyflwyniad i lywodraethwyr ysgol.

 

Ni waeth pa ysgol y byddwch yn eich canfod eich hun ynddi, bydd y ffordd y mae'n ymdrin ag addysg gynhwysol yn ffactor bwysig wrth bennu diwylliant ei hamgylchedd dysgu ac addysgu. Dros yr ychydig oriau nesaf, cewch gyflwyniad i rai o'r egwyddorion a'r dadleuon a fydd wedi llywio'r modd y mae eich ysgol yn ymdrin â chynhwysiant. Byddwch yn ystyried safbwyntiau gwahanol ar gynhwysiant, yn benodol y ffordd y mae modelau meddygol a chymdeithasol wedi dylanwadu ar ein meddylfryd presennol. Byddwch hefyd yn ystyried y rhwystrau i gynhwysiant, a'r gwahaniaeth rhwng integreiddio a chynnwys. Hefyd, byddwch yn ystyried rhai o'r dogfennau allweddol, er enghraifft Datganiad Salamanca a'r Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol, sy'n sail i'n meddylfryd presennol yn y maes hwn.

 

Mae’r Cwrs Agored Bathodyn hwn yn rhan o gasgliad o adnoddau hyfforddiant ar gyfer llywodraethwyr ysgol yng Nghymru. Datblygwyd y casgliad gan Y Brifysgol Agored yng Nghymru gyda’r nod o ddatblygu amrywiaeth o sgiliau a myfyrdodau ychwanegol a all eich helpu yn eich rôl fel llywodraethwr.

Addysg gynhwysol: deall yr hyn a olygwn (Cymru)

Cwblhewch y cwrs hwn i dderbyn y bathodyn am ddim hwn gan y Brifysgol Agored! Gellir arddangos y bathodyn, ei rannu a'i lawrlwytho i nodi eich llwyddiant. Dyfernir y bathodyn am gwblhau'r cwrs a phasio'r cwisiau.

Deilliannau dysgu'r cwrs

Ar ôl astudio'r cwrs hwn, dylech allu:

  • gwell dealltwiraeht o rôl arweinyddiaeth wrth ddatblygu ysgolion a gwella deilliannau disgyblion
  • gallu trafod a dadansoddi rhai o'r ffactorau a all ddylanwadu ar arweinyddiaeth lwyddiannus a chyfrannu ati
  • gallu myfyrio ar y dulliau arwain a ddefnyddir mewn sefydliadau addysgol sy'n hysbysu i chi a gwerthfawrogi pwysigrwydd defnyddio tystiolaeth i gefnogi safbwyntiau
  • gwerthfawrogi pwysigrwydd cynllunio a gwerthuso datblygiad dysgu proffesiynol

Cyhoeddwyd gyntaf: 25/09/2020

Wedi'i ddiweddaru: 25/09/2020

Hepgor Graddau y Cwrs