Mynd i'r prif gynnwys
Cwrs am ddim

Gwella profiadau tystion sy’n gleifion, teuluoedd a chydweithwyr o’r broses Addasrwydd i Ymarfer

Datganiad cyfranogiad am ddim wrth i chi gwblhau
Gwella profiadau tystion sy’n gleifion, teuluoedd a chydweithwyr o’r broses Addasrwydd i Ymarfer

Yn ôl yr Awdurdod Safonau Proffesiynol, Addasrwydd i Ymarfer yw’r ‘broses a ddefnyddir gan reolyddion proffesiynol statudol i drin cwynion neu ddelio â phryderon a wnaed am weithwyr iechyd a gofal proffesiynol sydd ar eu cofrestrau’. Gellir galw ar dystion i gamymddwyn i roi tystiolaeth mewn ymchwiliad a gwrandawiad Addasrwydd i Ymarfer. Bydd cyfran o’r rhain yn cynnwys cleifion, defnyddwyr gwasanaeth a chydweithwyr sydd efallai wedi cael eu niweidio’n sylweddol gan ymddygiad y cofrestrai. Gall achosion o’r fath gynnwys ymddygiadau sy’n gysylltiedig â cham-drin rhywiol, aflonyddu a bwlio, dwyn a thwyll, a niwed clinigol parhaol. Rydym yn gwybod o’r ymchwil yn y system cyfiawnder troseddol bod potensial am ragor o drawma o ganlyniad i’r profiad o fod yn dyst. Mae’r cwrs hwn, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, yn darparu dysg ynghylch y broses Addasrwydd i Ymarfer a bod yn dyst.

RCN logo

Mae'r cwrs hwn wedi'i achredu ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus gan y Coleg Nyrsio Brenhinol (RCN). Ni all y RCN gadarnhau cymhwysedd unrhyw ymarferydd ar ôl cwblhau'r cwrs hwn.

Deilliannau dysgu'r cwrs

Ar ôl astudio'r cwrs hwn, dylech allu:

  • deall rôl rheoleiddwyr proffesiynol
  • deall pam fod pobl yn mynegi pryder am y rhai sydd wedi cofrestru gyda rheoleiddwyr proffesiynol neu pam nad ydynt yn gwneud hynny
  • deall y mathau o wybodaeth sydd ar gael i bobl sydd â diddordeb mewn codi pryder gyda rheoleiddiwr
  • archwilio profiadau pobl sy'n codi pryder gyda rheoleiddiwr a'r rhai y mae eu hachos yn cael ei gau cyn gwrandawiad Addasrwydd i Ymarfer
  • archwilio profiadau pobl y mae gofyn iddynt fod yn dystion mewn gwrandawiad Addasrwydd i Ymarfer
  • disgrifio'r ffyrdd y gall rheoleiddwyr wella'r broses Addasrwydd i Ymarfer ar sail canfyddiadau ymchwil.

Cyhoeddwyd gyntaf: 06/08/2024

Wedi'i ddiweddaru: 06/08/2024

Hepgor Graddau y Cwrs

Graddau y Cwrs