Yn ôl y Cenhedloedd Unedig, mae heneiddio yn debygol o fod yn un o drawsnewidiadau cymdeithasol mwyaf arwyddocaol yr unfed ganrif ar hugain, gan fod pob gwlad yn y byd fwy neu lai yn gweld mwy o bobl hŷn yn eu poblogaethau.
Er bod byw yn hirach yn beth da, mae’r nifer o bobl sy’n heneiddio’n iach ac yn teimlo’n dda yn dirywio.
Beth allwn ni ei wneud, fel unigolion, i gymryd peth rheolaeth dros ein heneiddio ein hunain a gwneud popeth o fewn ein gallu i gadw’n iach yn hwyrach mewn bywyd?
Mae hydradiad da yn ffurfio rhan o’r Pum Colofn Heneiddio’n Dda, model arloesol sy’n helpu pobl i wneud yn fawr o ymddygiadau heneiddio’n dda mewn pum prif faes: Maeth, Hydradu, Cymhelliad Corfforol, Cymdeithasol a Gwybyddol.
Mae Dr Jitka Vseteckova yn Uwch Ddarlithydd yn Ysgol Iechyd, Llesiant a Gofal Cymdeithasol y Brifysgol Agored.
Dysgwch fwy am Dr Jitka Vseteckova a’i gwaith.
Graddau y Cwrs
Graddiwch yr erthygl hon
Adolygwch yr erthygl hon
Mewngofnodi i OpenLearn i adael adolygiadau ac ymuno â'r sgwrs.
Adolygiadau ar gyfer yr Erthygl hon