Yn y fideo hwn, mae’r Athro Rosalind Crone yn ymweld â Charchar Biwmares ar Ynys Môn, gogledd Cymru, lle ceir un o'r melinau traed cosbol olaf sydd ar ôl ym Mhrydain.
Nid rhywbeth y byddech yn cael hyd iddo mewn ystafell ffitrwydd, fel y peiriant tebyg sy'n bodoli heddiw, oedd y felin draed gosbol. Peiriant ydoedd a fyddai'n cael ei ddefnyddio i gosbi carcharorion, a byddai rhai'n dadlau ei fod yn offeryn arteithio. Beth all y peiriant ei ddysgu inni am y syniad o gosb neu adsefydlu mewn carchardai heddiw?
Mwy am ddyfeisio a mabwysiadu'r felin draed gosbol
Tua 1817, gofynnodd ynad yn Suffolk, i'w ffrind William Cubbitt, peiriannydd yn Ipswich, ddyfeisio rhywbeth i gadw carcharorion segur yn brysur yng Ngharchar Sirol Bury St Edmunds.
Cafodd Cubbitt ei ysbrydoli gan hen dechnoleg yr olwyn draed - math o beiriant fyddai'n cael ei yrru gan bobl neu anifeiliaid ac a ddefnyddiwyd ers canrifoedd i yrru craeniau a melinau. Roedd y peiriannau hyn fel olwyn fochdew enfawr, gyda dau neu dri o ddynion yn cerdded y tu mewn i'r olwyn i'w throi a chynhyrchu pŵer..
Estynnodd Cubbitt yr hen olwyn draed, gan alluogi mwy o bobl i gerdded arno ar yr un pryd.
Ac wedyn gwnaeth wrth-droi'r peiriant. Byddai'r carcharorion yn troedio ar y tu allan i'r olwyn, a oedd yn bosibl drwy osod grisiau pren. Roedd hyn yn gwella'r trefniadau gwyliadwraeth a diogelwch, a hefyd yn golygu bod y carcharorion yn dringo yn lle cerdded, gan wneud y dasg yn fwy anodd.
Yn olaf, gorchuddiodd Cubbitt y grisiau ar ben uchaf yr olwyn, i gadw'r carcharorion ar lefel yr echel, er mwyn cynhyrchu cymaint o bŵer â phosib.
Dadleuai Cubbitt y gellid defnyddio'r pŵer hwn i bob math o ddibenion - fel malu grawn, neu yrru gwyddiau defnydd - a gobeithiai y byddai contractwyr allanol yn rhentu'r felin draed a'r carcharorion. Byddai llafur y carcharorion yn cynhyrchu rhywbeth, ac roedd cynhyrchiant yn allweddol i feithrin etheg gwaith dda.
Ar yr un pryd, nid oedd angen unrhyw hyfforddiant ar y carcharorion i ddringo'r olwyn; roedd dringo yn waith caled, felly'n fath o 'lafur caled'; ac roedd y gosb yn unffurf, gyda phob carcharor yn gorfod dringo'r un nifer o risiau.
Erbyn 1819, roedd prototeipiau o'r felin draed wedi cael eu hadeiladu yng Ngharchar Bury St Edmunds yn Suffolk ac yn Nhŷ Cywiro Brixton yn Llundain.
Yn gynnar yn y 1820au, cymeradwywyd y peiriant newydd yn swyddogol gan y Gymdeithas er Gwella Disgyblaeth Carchardai - mudiad diwygio cosbau mwyaf blaenllaw Prydain, a dechreuodd y mudiad annog carchardai ledled y wlad i'w fabwysiadu.
Erbyn 1824, roedd melinau traed mewn o leiaf 54 o garchardai ym Mhrydain – gan gynnwys 3 yng Nghymru. Roedd mwy fyth yn ymddangos yn Iwerddon, Gogledd America ac Awstralia.
Roedd yr adborth cychwynnol yn dda. Casglodd ymchwiliad gan y Swyddfa Gartref fod y felin draed o fudd i iechyd carcharorion. Roedd adroddiadau gan Ipswich yn honni bod carcharorion yn ciwio'n awyddus i gael tro ar yr olwyn. Honnai merched yng Ngharchar Northallerton fod dringo'r felin droi yn llai beichus na gweithio yng ngolchdy'r carchar.
Fodd bynnag, daeth tystiolaeth i'r amlwg yn fuan o'r niwed a oedd yn cael ei achosi gan y felin draed. Datblygodd rhai dynion dorgest, niwed i'r ysgyfaint a gwynegon neu gryd cymalau. Collodd menywod a oedd yn bwydo o'r fron eu cyflenwad o laeth. Bu damweiniau hefyd. Byddai melinau traed wedi'u hadeiladu'n wael yn dymchwel, gan achosi anafiadau difrifol a marwolaethau. Gallai coesau gael eu rhwygo, neu gallai rhywun golli eu bywyd, o fethu gris wrth ddringo.
Ni ddatblygodd unrhyw gynlluniau ychwaith i ddefnyddio'r llafur er budd economaidd. Erbyn y 1830au, nid oedd y rhan fwyaf o felinau traed Prydain yn malu grawn nac yn gyrru gwyddiau mwyach - nid oedd rhai erioed wedi gwneud hynny. Roedd datblygiadau mewn technoleg ddiwydiannol yn golygu nad oedd angen y math hwn o lafur dynol, neu lle'r oedd angen amdano, roedd cystadleuaeth annheg rhyngddo a llafur y tu allan i'r carchar.
Ar ei orau, defnyddiwyd y pŵer a gynhyrchwyd gan y felin draed i bwmpio dŵr o amgylch y carchar; ar ei waethaf, roedd y pŵer yn cael ei wastraffu'n llwyr. Roedd unrhyw swyddogaeth adsefydlu yn gysylltiedig â'r felin draed wedi'i cholli.
Yr Athro Rosalind Crone yw Pennaeth Hanes y Brifysgol Agored.
Rate and Review
Rate this video
Review this video
Log into OpenLearn to leave reviews and join in the conversation.
Video reviews