6000 mlynedd yn ôl, roedd y mwyafrif o Brydain wedi’i gorchuddio â brithwaith o goetiroedd, rhostiroedd agored, corsydd a glaswelltiroedd.
Heddiw, er mai dim ond chewch y cant o’r tir ym Mhrydain sy’n drefol, mae bron i 85% o’r boblogaeth yn byw mewn trefi a dinasoedd. Mae’r coedwigoedd hynafol a oedd unwaith yn gorchuddio rhan helaeth o Brydain bellach yn gyfran fechan o’r dirwedd, a llai fyth yn yr ardaloedd trefol hyn.
Os ydych chi’n byw mewn tref neu ddinas ym Mhrydain heddiw, mae posibilrwydd eich bod dal yn gweld coed yn eich bywyd dydd i ddydd. Efallai eich bod yn ymwybodol o’r ymdrechion i gynyddu’r nifer o goed o’ch cwmpas. Felly, wrth i ragor o goed gael eu plannu, a oes cyfle i weld trefi a dinasoedd yn goedwigoedd unwaith eto?
Yn y fideo hwn, ymchwilia Dr Philip Wheeler beth all ein gwybodaeth am goetiroedd hynafol ein dysgu am sut yr ydym yn rheoli coed mewn amgylcheddau trefol nawr ac ar gyfer y dyfodol.

Gweithia Dr Philip Wheeler fel ecolegydd a biolegydd cadwraeth yn Ysgol Gwyddorau’r Amgylchedd, Daear ac Ecosystem y Brifysgol Agored.
Dysgwch ragor am Dr Philip Wheeler a’i grŵp ymchwil.
Dysgwch fwy gydag OpenLearn

Graddau y Cwrs
Graddiwch yr fideo hon
Adolygwch yr fideo hon
Mewngofnodi i OpenLearn i adael adolygiadau ac ymuno â'r sgwrs.
Adolygiadau ar gyfer yr Fideo hon