Mewn erthygl berthnasol am ochr dywyll technoleg, gwnaethom edrych ar sut mae ymchwil yn dechrau dangos bod defnyddio ffonau clyfar a thechnoleg amlgyfrwng yn gysylltiedig â phryder a gweithrediad gwybyddol gwael. Felly, beth allwn ni ei wneud i osgoi straen sy’n ymwneud â’r byd digidol? Dyma rai awgrymiadau gwych ar gyfer rheoli llesiant yn yr oes ddigidol.
1: Cymryd seibiant o’r byd digidol
Efallai bod hynny’n golygu seibiant am awr, diwrnod, wythnos neu hirach... ceisiwch ddod o hyd i amser i gael seibiant o’ch dyfeisiau ac i ddatgysylltu o’r cyfryngau cymdeithasol. Gallai hyd yn oed troi eich hysbysiadau i ffwrdd a chysgu gyda’ch ffôn mewn ystafell arall, neu yn y Modd Awyren, fod yn ddigon i weld newid cadarnhaol. Er enghraifft, gwnaeth ymchwil ddiweddar ganfod bod cyfyngu ar ddefnyddio ffôn clyfar yn yr ystafell wely yn gwella ansawdd cwsg, yn eich gwneud yn hapusach ac yn gwella ansawdd eich bywyd. Os ydych chi’n barod am fwy o her, ceisiwch gymryd seibiant hir o’r cyfryngau cymdeithasol. Yn ddiweddar, fe rannodd Cymdeithas Seicolegol Prydain erthygl am sut gall cymryd seibiant o Facebook am bum diwrnod leihau lefelau cortisol (marciwr ffisiolegol straen); ac mae astudiaethau eraill wedi canfod effaith gadarnhaol debyg ar fesurau llesiant mwy ffisiolegol.
2: Pennu ffiniau clir ar gyfer defnyddio eich ffôn clyfar at ddibenion cymdeithasol
Mae llawer ohonom yn defnyddio ffonau pan rydym gyda’n ffrindiau a theulu, wrth wylio’r teledu, ac wrth fwyta; gan rannu ein sylw rhwng ein ffonau a’n profiadau go iawn. Fodd bynnag, mae ymchwil wedi dangos sut mae bod yn fwy meddylgar a phresennol yn fuddiol i’n llesiant. Felly, pennwch reolau sylfaenol a fydd yn eich galluogi i fyw yn y presennol yn well. Er enghraifft, gall pennu rheolau fel dim ffonau symudol wrth y bwrdd bwyd, newid y ffôn i’r modd awyren pan rydych allan gyda’ch ffrindiau, neu beidio ag anfon negeseuon testun rhwng amseroedd penodol (fel 10pm a 8am) yn gymorth i’ch annog i fyw yn y presennol.
3: Ail-gydbwyso eich gwaith a’ch bywyd gartref
Gydag e-bost ar gael yn eich poced, mae’n bwysig gosod ffiniau o ran pryd mae eich diwrnod gwaith yn dechrau ac yn gorffen. Ceisiwch droi eich hysbysiadau e-bost i ffwrdd ac edrych ar eich e-byst ar adegau penodol o’r dydd yn unig. Penderfynwch pryd fydd y tro olaf y byddwch yn edrych ar eich e-byst ac yn anfon unrhyw ymatebion funud olaf, yna dylech adael i bob dim arall aros tan y bore. Os ydych yn poeni beth fydd pobl yn ei feddwl gallwch osod ateb awtomatig yn egluro pryd byddwch yn darllen eich e-byst nesaf. Mae mwy o bobl yn gwneud hyn nawr er mwyn rheoli eu llesiant.
4: Archwilio a churadu eich ffrydiau cyfryngau cymdeithasol
Y tro nesaf y byddwch yn mynd ar y cyfryngau cymdeithasol, edrychwch ar y postiadau gwahanol ar eich ffrwd a bod yn onest â'ch hun ynghylch sut maent yn gwneud i chi deimlo. Os yw lluniau, sylwadau neu negeseuon trydar rhywun yn gwneud i chi deimlo’n ddrwg, dylech ddad-ddilyn neu guddio’r person hwnnw (hyd yn oed os mai eich ffrind gorau yw’r person; os yw rhywun yn gwmni da yn y byd go iawn, nid yw’n golygu bod yr un peth yn wir ar-lein). Ar y llaw arall, dylech chwilio am y pethau sy’n gwneud i chi deimlo’n dda amdanoch eich hun... a’u dilyn. Gallai’r pethau hynny olygu straeon newyddion da, postiadau addysgol, dyfyniadau ysbrydoledig, eich hoff ddigrifwr, neu fideos doniol o gathod. Mae’n bwysig lleihau’r negyddol a chynyddu’r cadarnhaol. Gwnaeth ymchwil ddiweddar ganfod, er bod rhyngweithiadau a phrofiadau negyddol ar y cyfryngau cymdeithasol yn gysylltiedig â lefelau uwch o iselder a phryder; mae rhyngweithiadau a phrofiadau cadarnhaol yn gysylltiedig â lefelau is o iselder a phryder.
5: Mae ap ar gyfer hynny; defnyddiwch dechnoleg er mantais i chi
Mae cannoedd o apiau wedi’u dylunio’n benodol i helpu i hyrwyddo gwell iechyd corfforol a meddyliol. Yr apiau gorau i chwilio amdanynt er mwyn atal pryder a straen yw’r rhai sy’n seiliedig ar ymwybyddiaeth ofalgar (therapi myfyriol, sy’n eich annog i ddod yn fwy ymwybodol o’r eiliad bresennol ac i dalu sylw i’ch meddyliau a’ch teimladau heb feirniadu), neu Therapi Gwybyddol Ymddygiadol (CBT: sy’n eich helpu i adnabod a herio meddyliau, ymddygiad neu gredoau negyddol), neu gyfuniad o’r ddau.
Ond os oes cannoedd o apiau ar gael... sut ydych yn gwybod pa un i’w ddewis? Er nad oes system swyddogol ar gyfer achredu apiau llesiant yn y DU ar hyn o bryd, yn ddiweddar fe lansiodd y GIG lyfrgell brofi ar gyfer y rhai maen nhw’n eu hargymell. Mae ORCHA UK wedi ysgrifennu adolygiad o’r apiau iechyd meddwl a allai eich rhoi ar ben ffordd. Er mwyn cael ap Iechyd Meddwl Cymraeg, rhowch gynnig ar Ap Cwtsh. Ond os hoffech wybod a yw ap rydych yn dod ar ei draws yn un da... un o’r ffyrdd gorau yw gwneud rhywfaint o waith ymchwil eich hun. Ceisiwch chwilio am enw’r ap ar Google Scholar i weld a oes unrhyw waith ymchwil wedi’i wneud am ei effeithiolrwydd. Os ydych chi’n fyfyriwr yn y Brifysgol Agored, ceisiwch chwilio am gylchgronau a chronfeydd data yn y llyfrgell ar-lein i ddod o hyd i’r un wybodaeth. Mae llawer o apiau iechyd meddwl a llesiant ar gael (o ansawdd amrywiol)... felly chwiliwch am ap sydd â’r data i gefnogi ei ansawdd a’i effeithiolrwydd.
Mae’r adnodd hwn yn rhan o ‘Gasgliad Llesiant ac Iechyd Meddwl’ wedi ei greu gan y Brifysgol Agored yng Nghymru. Gallwch ddysgu mwy a dod o hyd i gyrsiau, erthyglau a gweithgareddau eraill ar dudalen hafan y casgliad.
Graddau y Cwrs
Graddiwch yr erthygl hon
Adolygwch yr erthygl hon
Mewngofnodi i OpenLearn i adael adolygiadau ac ymuno â'r sgwrs.